ni a hwythau. A phwy bynag a ddarlleno y Gramadeg Gwyddelaeg, a wel fod tueddiad a natur eu hiaith hwy yn gofyn newid llythyrenau yn nechreu'r geiriau, yn gwbl gysson a'r Gymraeg.
Pwy bynag a ddeil sylw ar lawer o hen enwau afonydd a mynyddoedd drwy y deyrnas hon, ni chaiff efe le i ammheu nad y Gwyddelod oedd y trigolion pan roddwyd yr enwau hyny arnynt. Fe ŵyr pawb mai enw afon fawr yng Nghymru yw Wysg; ac nid yw Conwy, Tywi, Wy, ond gwahan enwau at yr un ystyr; ïe, enw yr afon benaf yn y deyrnas yw Tafwys,[1] hyny yw, cydiad Taf ac Wysg yng nghyd. Ni ŵyr neb gyda ni beth yw ystyr y gair; ond nid oes gan Wyddelod yr Iwerddon un gair arall am ddwfr, ond Uisg; ac megys y mae'r geiriau Coom, Dor, Stour, Tam, Dove, Avon, yn Lloegr, yn cyfaddef nad ynt amgen na'r geiriau Cymreig, Cum, Dwr, Ys-dwr, Taf, Dyfi, ac Afon; a thrwy hyny yn dangos mai y Cymry oedd yr hen frodorion; felly y mae'r geiriau Wysg, Llough, Cynwy, Ban, Drum, Llechlia, ac amryw ereill, yn dangos fod y Gwyddelod yn preswylio gynt hyd wyneb y wlad hon; canys ystyr y geiriau yn ein hiaith ni ydyw, Dwfr, Llyn, Prif-afon, Mynydd uchel, Cefn, Maen llwyd. Pwy fyth a ŵyr achos am alw Cut defaid yn Gorlan, oni ŵyr hefyd fod y Gwyddelod yn galw dafad yn eu hiaith hwy yn caor? neu pa ham yr ydys yn galw gwartheg godro yn wartheg Blithion, oni ŵyr hefyd mai Blithuin yw godro yn yr iaith hono? [2]
Ni all neb ddeall y Gymraeg yn iawn heb y Wyddelaeg. Pwy a ddeallai ystyr Traeth Saith, yn Sir Aberteifi, oni ddeall Wyddelaeg hefyd? canys ystyr y gair yw Traeth bas. Eithon yw enw afon yn Sir Faesyfed: y gair Gwyddelaeg yw Aithafon, h.y., afon redegog wyllt.
Nid llai gwaith na gwneuthur geirlyfr bychan, a fyddai osod i lawr yr holl eiriau o'r un sain ac ystyr yn yr iaith Gymraeg a'r Wyddelaeg: bydded yr ychydig a ganlyn yn lle esampl.