Dros hir amser y bu'r Gwyddelod a hwythau yn cadw yn bobl wahanol, y naill genedl a'r llall yn dilyn ei harferion a'i hiaith ei hun; ond yno ym mhen talm o amser, ymgyfathrachodd y naill bobl â'r bobl arall, sef y Gwyddelod a'r Scuidiaid (canys felly y gelwid gwŷr dyfod yr Hispaen), ac a aethont megys un pobl, fel y gwelwch chwi ddwy haid o wenyn yn taro yng nghyd yn yr un cwch. O hyny allan y cymmysgwyd y iaith, a lluniwyd un iaith gymmysg o'r ddwy, yr hon a siaredir yn yr Iwerddon hyd y dydd heddyw. O hyn y mae fod llawer o eiriau dyeithr wedi eu benthycio oddi gan y Scuidiaid yn iaith y Gwyddelod. Lle y maent yn cytuno â nyni, yno dilys yw mai hen Gymraeg ddiledryw yw y geiriau hyny; a lle y maent yn anghytuno, naill ai geiriau Cymraeg yw y rhei'ny, y rhai a gollasom ni, neu eiriau estronaidd, y rhai a fenthyciodd y Gwyddelod oddi gan y Scuidiaid.
Dyma ni wedi gweled estron genedl, yn gynnar iawn, wedi ymgymmysgu ag un llwyth o'r hen Gymry, sef â Gwyddelod yr Iwerddon. Dygwyddodd yr un perth i'n hynafiaid ninnau ym Mrydain, fel yr wyf yn awr i ddangos.
Ar ol bod yr ynys hon, o ben bwygilydd o honi, ym meddiant yr hen Gymry, ni wyddys yn dda pa gymmaint o amser, tiriodd yma wr o Gaerdroia a elwid Brutus; yr hwn, ac efe yn medru darllen ac ysgrifenu, ac yn gynnil ei wybodaeth mewn llawer o bethau cywrain a chelfyddgar, a gas o unfryd ei ddyrchafu yn ben ar yr hen drigolion, y rhai, a hwy y pryd hwnw yn anfedrus agos mewn pob peth ond i ryfela, a ddysgodd Brutus mewn moesau dinasol, ac i blanu, i adeiladu, ac i lafurio y ddaiar, ond yn enwedig efe a'u haddysgodd mewn dau beth nad oedd ond ambell genedl yn yr hen amseroedd hyny yn gydnabyddus â hwy, sef yw hyny, i ddarllen ac ysgrifenu, yr hyn ni chollasant byth wedyn. Dywedir i Frutus a'i wŷr dirio ym Mrydain yng nghylch mil o flynyddoedd cyn geni Crist.
Iaith Brutus a'i wŷr oedd y Groeg; ac y mae'n ddilys mai oddi wrtho ef y cawsom yr amryw eiriau Groeg, y rhai sydd hyd heddyw yn gymmysg â'r iaith Gymraeg; canys Brutus a'i bobl a ymgymmysgodd â'r hen drigolion yr un ffunud ag y darfu i Madog ab Owen Gwynedd ymgymmysgu â phobl America. Canys y Madog hwnw, yn y flwyddyn o oedran Crist 1170, pan oedd ei frodyr yn mwrddro eu gilydd fel bleiddiau ffyrnig, yng nghylch eu treftadaeth yng Nghymru,