a gymmerth long, ac a hwyliodd tua'r gorllewin, heibio i'r Iwerddon, nes dyfod o'r diwedd i'r deyrnas fawr ac eang hòno a elwir yn awr America. [1] Yna y gadawodd efe rai o'i wŷr i gadw goresgyn a meddiant o'r wlad, ac a fordwyodd adref i Gymru drachefn, lle y traethodd efe wrth ei gydwladwyr, ba wlad ffrwythlawn a rhagorol a gafodd efe allan wrth hwylio gyda'r haul i bellder y gorllewin : dymunodd arnynt i ystyried am ba greigle, a mynydd-dir, ac anialwch yr oeddent hwy yng Nghymru, megys cynnifer cigydd gwaedlyd, yn llofruddio ac yn darnio eu gilydd: deuent gydag ef, hwy a gaent drigo mewn brasder gwlad, yn yr hon y bwytäent fara heb brinder, ac ni byddai eisieu dim arnynt.
Fe fenodd hyn gymmaint ar ei gydwladwyr, fel y cododd llu mawr o wŷr a gwragedd gydag ef, yn enwedig o'r rhai hyny ag oedd yn caru byw yn llonydd, ac a diriasont ym mhen wyth mis a deng niwrnod yn y porthladd y buasai efe o'r blaen ynddo. Tra y parhaodd y to hwnw, hwy a gadwasant gyda'u gilydd o'r un iaith, o'r un grefydd, a'r un gyfraith. Ond ym mhen talm o amser, ar ol dwy genedlaeth neu dair, fe ymgyfathrachodd y to nesaf â thrigolion y wlad, ac a aethont yn un genedl â hwy; fel y gwelwch chwi ddwfr a llaeth yn ymgymmysgu.
Yn awr, y mae genym y sicrwydd mwyaf sydd bosibl i fod, mai y Cymry oeddent y cyntaf o holl drigolion Europ a gawsant y ffordd allan i America: oblegid (1.) Fod croniclau yr oesoedd yn tystio hyny. (2.) Fod amryw eiriau Cymraeg gan bobl y parthau hyny hyd y dydd heddyw, lle y gwladychodd y Cymry gyntaf; megys, pan y byddont yn siarad, dywedant, Gwrando. Pengwyn yw enw aderyn â phen gwyn iddo; Coch y dwr yw enw aderyn arall. Corroeso yw enw y lan gyntaf y tiriasont arni; a Gwenddwr y gelwir un o'u hafonydd. Ac heb law hyn oll, fe gafwyd beddrod Madog ab Owen yn y wlad hòno, a'r ysgrifen a ganlyn ar gareg ei fedd:—[2]
Ond i ddychwelyd at Frutus. Fel y gwelwch chwi ddwy