Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/48

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gangen wrth ymgydio, yn tyfu yng nghyd, a myned yn un pren; felly yr ymgymmysgodd Brutus a'i wŷr yntau a'r hen Gymry, ac a aethont o hyny allan dan yr enw Brytaniaid, er parchus goffadwriaeth i'r gwr yr hwn a'u haddysgodd mewn amryw gelfyddydau perthynasol i fywyd dyn. Ac o herwydd mai Groegwr oedd Brutus (fel y dywedais o'r blaen), o hyn y mae fod yr hen Frytaniaid yn arferu llythyrenau Groeg yn eu hysgrifenadon, a hyny, ni a wyddom, ym mhell cyn amser Cred, os nid er dyfodiad cyntaf Brutus i'r ynys hon. Canys y mae Iul Caisar yn adrodd am y Derwyddon, [1] eu bod hwy yn dysgu ar dafodleferydd rifedi afrifed o bennillion a chywyddau; a bod rhai yn treulio ugain o flynyddoedd yn dysgu y pennillion hyny, cyn bod yn ddigon o athrawon. Yr oeddid yn cyfrif y pennillion hyn, eb efe, mor sanctaidd, fel na feiddiai neb eu hysgrifenu ar bapyr; ond pob materion ereill, eb efe, y maent yn ysgrifenu â llythyrenau Groeg. [2]

Yn awr, y mae yn eglur oddi yma, (1.) Fod yr hen Frytaniaid yn medru darllen ac ysgrifenu cyn dyfod na Rhufeinwr na Sais i Frydain; canys yr oedd yr awdur dysgedig, yr hwn sydd yn rhoddi yr hanes yma i ni, yn byw yng nghylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist. (2.) Mai llythyrenau Groeg oedd ganddynt, sef y cyfryw ag a ddysgodd Brutus iddynt: yr un llythyrenau a welir hyd heddyw ar fagad o geryg mewn amryw fanau yng Nghymru. [3]

Heb law fod yr hen Frytaniaid yn arferu llythyrenau Groeg yn eu hysgrifeniadau, y mae ein hiaith ni, hyd y dydd heddyw, yn cydnabod amryw ac amryw eiriau o dyfiant Groeg; sef yw hyny, amryw eiriau y rhai a blanodd Brutus yn ein mysg; yr hen eiriau Cymraeg wedi eu colli genym ni, ond a gedwir eto ym mysg y Gwyddelod. Yn awr Uisc y gelwai yr hen Gymry Ddwfr: y mae'r gair wedi ei golli gyda ni, ond a gynnelir o hyd gan y Gwyddelod; canys nid yw Dwr ond gair Groeg a gafwyd oddi wrth Frutus. Ac nid i són am ychwaneg, Grian y gelwai yr hen Gymry yr Haul: y mae'r gair wedi ei golli gyda ni, ond a gynnelir o hyd gan y Gwyddelod; canys nid yw Haul ond gair Groeg a gafwyd oddi wrth Frutus.

Yr achos cyntaf a gafwyd i wadu dyfodiad Brutus i'r ynys hon o Frydain, oedd hyn: pan fu farw Ieffrey ab Arthur,[4]

  1. Felly y gelwid gweinidogion crefydd ym Mrydain cyn geni Crist.
  2. Cæs. de Bell. Gal. lib. 6, p. 106.
  3. De Antiq. Græc. Lit. vid. Shuckford, vol. i. p. 265, &c.
  4. Sieffre o Fynwy