Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r ynys hon o Gaerdroia (ond pa fodd y bu hyny mi ddangosais eisys); ïe, y mae hyn wedi greddfu mor ddwfn, fel y cewch chwi weled hyd yn oed y bugeiliaid ar ben pob twyn a bryn, yn tori llun Caerdroia ar wyneb y glas. Fe all dyn o ystyriaeth gasglu rhyw beth oddi wrth hyn; ond pa fodd bynag, dyma fel y maent yn ei darlunio hi, yn llawn o droion, yn wir, yn ol ei henw. [1]

Nid oes yn awr, hyd y gwn i, ond un peth yn ol, sef pa ham y galwyd yr ynys hon Brydain ar y cyntaf. Tybia Mr Camden (yr hwn yn ddiau oedd wr dysgedig, ond opiniwnus) i wŷr o wledydd ereill ei galw felly gyntaf, o waith fod yr hen Frytaniaid yn britho eu crwyn: ond nid oes odid gymmaint ag un yn ei ganlyn ef yn awr yn ei ddychymmyg wan annilys. Mae Mr Humffrey Llwyd, gwr dysgedig arall o Gymro a ysgrifenodd o flaen Camden, yn tybied mai ystyr y gair Brydain yw Pryd-cain; sef yw hyny, ei galw hi felly gan yr hen drigolion, o blegid tegwch ei phryd. Y mae hyn hefyd yn seinio yn lled annaturiol, os nid yn dyn ac yn drwsgl. Ond dyma'r anffawd, pe bai un mor ffodiog a tharo wrth y gwir ddeongliad, eto nid all neb fod yn sicr mai hwnw sydd ar y iawn. Mi a dybiwn, os nid Brutus a alwodd y wlad ar ei enw ei hun, mai yr hen enw yw Pryd-wen; ac mi a wn fod y gair Prydwen yn ateb yr ystyr cystal, ac yn fwy rhwydd a naturiol na Phryd-cain, am fro deg brydweddol hyfryd. Dyna fel y gelwai yr hen Frytaniaid gynt darian Arthur.

Y mae dadl nid bychan ym mysg amryw wŷr dysgedig, yng nghylch pa wlad a feddylir wrth yr hon a eilw hen awdwr pellenig wrth y gair Thule. Ond pe buasent hwy yn deall Cymraeg, ni fuasai dim dadl nac ymryson yn y peth. Canys wrth ddarllen rhyw hen ysgrifen o waith llaw y cefais yno, Tylau Iscoed, sef yw hyny, Tylau'r Iwerddon; canys Scotia, yn Lladin, y geilw yr holl wŷr pellenig ynys yr Iwerddon, [2] oddi wrth y gair Cymraeg Iscoed. A chan fod pawb yn cytuno mai rhyw ynys ger llaw Ynys Brydain yw Thule, a'r eithaf tua'r Gorllewin, [3] pa wlad amgen a all hi fod, ond Tylau Iscoed, neu ynys yr Iwerddon? Nid oes ond y peth lleiaf rhwng y gair Cymraeg Tylau, a'r gair Lladin Thule.

  1. Yr oeddwn i yn cwbl fwriadu, pan ysgrifenais hyn ar y cyntaf, i osod yma lun Caerdroia; ond nid oedd dyn o fewn fy nghydnabod, ag oedd o fedr i wneuthur hyny, nac mewn pren nac mewn efydd.
  2. Uss. Primord. 725-734.
  3. Ultima Thule.