Yr oedd yr hen bobl yn siarad pethau rhagorol yng nghylch y wlad hon, yn ei galw hi yn Baradwys, yn Degwch Bro, y Wlad Fendigaid, ac Hyfrydwch Pobl; ac ond odid un achos am ei bod mor anwyl yw hyn, am nad all un creadur gwenwynig fyw yno; na llyffant, na sarff, na gwiber, nac un creadur arall â dim naws gwenwyn ynddo; ac os dygir un creadur gwenwynig i'r wlad hon, fe a dry â'i dor i fyny yn y man, ac a drenga ar ei waith yn anadlu awyr bur ynys yr Iwerddon.
PENNOD II.
Y RHYFEL A'R RHUFEINIAID. HWYNT-HWY, YN ANGHYFIAWN, YN TREISIO Y BRYTANIAID O'U GWIR EIDDO.
FE fu Ynys Brydain, yn yr hen amser gynt, yn talu teyrnged i Rufain, a hyny dros ychwaneg na phedwar cant o flynyddoedd; a'r pryd hwnw yr oedd bonedd y Cymry yn siarad Lladin mor gyffredin ag y maent yn siarad Seisoneg yn awr. Nid wyf fi ddim yn meddwl gwaith Pab Rhufain yn danfon ei swyddogion yma i geinioca bob blwyddyn, megys y byddai yr arfer yn amser Pabyddiaeth; ond yr wyf yn meddwl ymherodron neu emprwyr Rhufain, y rhai, ym mhell cyn dyfodiad y Seison i'r ynys yma, oeddent wedi goresgyn, drwy nerth arfau, amryw wledydd yn Asia ac Affrica, ond yn enwedigol yn Europ, ac ym mysg ereill yr ynys hon o Frydain.
Ond beth oedd gan nac emprwr na Phab Rhufain i wneuthur â'r deyrnas hon o Frydain? Pa hawl oedd gan y naill na'r llall i awdurdodi yma? Cewch glywed. Teitl y naill oedd min y cleddyf; canys pa wlad bynag a allai yr emprwr a'i wŷr rhyfel ei hennill drwy nerth arfau, tybid fod hyny yn ddigon o hawl i gymmeryd meddiant ynddi. Ond pa fodd bynag yw hyny, pe bai wr canolig, a phump neu chwech o ddyhirwyr wrth ei gynffon, yn beiddio mwrddro a lledrata, fe a estynid eu ceg wrth grogbren am hyny. Ac am deitl y Pab, y mae hwnw cynddrwg a'r llall, os nid gwaeth; canys nid yw e ddim amgen na'i drais yn ymhyrddu ar anwybodaeth dynion, ac yn rhyfygu awdurdod i fod yn ben ar yr eglwys na roddes Iesu Grist erioed iddo. A phan oedd eglwys Rhufain yn ei phurdeb, heb ei diwyno ag ofergoelon, megys y mae hi yn