chei di ddim o'n heiddo ni; canys cenedlaeth rydd ydym ni, ac nid oes arnom deyrnged, nerth, na gwystl i ti nac i Senedd Rufain. Ac o'r achos hwnw, dewis di ai cilio yn dy eiriau ai rhyfela; ac yr ydym ni yn barotach i ymladd â thydi nag i ddymuno tangneddyf; ac yn fodlon genym i fentro ein hoedlau er cadw ein gwlad rhag estron genedl, heb ofni mo'th fawr eiriau. Gwna a fynych dan dy berygl.'
Wedi i Iul Caisar ddarllen y llythyr hwn, a gweled bwriad diysgog y Brytaniaid i ymladd ag ef, dirfawr lid a gymmerth ynddo ei hun, ac a ddywedodd wrth ei uchel swyddogion, "Chwi a welwch mor anfoesol a sarig y'm hatebasant; ond odid ni a wnawn iddynt laesu peth o'r dewrder a'r taiogrwydd hyn." A hwy a atebasant, "A gymmeri di, O Caisar, dy lwfrhau gan wag ymffrost barbariaid? Ni a wyddom amgen. Wele ni yn barod i ymladd wrth dy ewyllys tra fo defnyn gwaed yn ein cyrff." Ac ar hyny Caisar a ymwrolodd, ac a gynnullodd ei sawdwyr yng nghyd, sef oedd eu rhifedi pum mil ar hugain o wŷr traed, a phedair mil a phum cant o wŷr meirch, ac mewn pedwar ugain o ysgraffau, a fordwyodd efe a'i wŷr tuag at Ynys Brydain.
Yr oedd y Brytaniaid hwythau yn gwybod eu bod ar fedr ymweled â hwy (canys nid amser i fod yn segur ac yn ysmala oedd hwn); ac am hyny yr oedd ysbïwyr yn dysgwyl yn y prif aberoedd, rhag i'r gelynion i dirio yn ddiarwybod, a'u lladd yn eu cwsg. A chyn gynted ag y daeth y llongau i olwg y tir, y swyddogion a anfonasant yn ddiaros i fynegu i'r brenin fod y gelynion wedi dyfod. Ac ar hyny y brenin a archodd i'r pen rhingyll i ganu'r cyrn cychwyn, i gynnull ei wŷr rhyfel yng nghyd; a brysio a wnaethant, yn llu mawr arfog, at y porthladd, ar fin Môr Caint; ac erbyn hyny yr oedd y gelynion o fewn ergyd saeth. Nid oedd gan y Brytaniaid y pryd hwnw na lluryg, nac astalch, na tharian, na phenffestin, nac un trec na pheiriant i amddiffyn rhag y saethau a'r gwaewffyn; lle yr oedd gan wŷr Rhufain helm o bres ar eu penau, tarian yn eu dwylaw, a lluryg ddur o gylch eu dwyfron. Ond er hyn o anfontais, pobl noeth yn erbyn gwŷr arfog,[1] eto bernwch chwi a fu achos gan wŷr Rhufain fostio mai hwy a gawsant y trechaf yn y diwedd? Canys am y glewion Frytaniaid, rhai a safasant ar benau y creigydd, rhai a ddisgynasant i'r traeth,
- ↑ 1 Apud quos [Brittanos] nulla loricarum galearumve tegmina. Tacit. Annal. 1. 12, p. 142.