ereill a aethant hyd eu tinbeisiau i'r môr, a phawb yn ergydio eu saethau cyn amled at y gelynion, nes oedd gwaed y lladdedigion yn ffrydio megys pistyll, yma ac acw, dros ystlysau'r llongau i'r môr. Yr oedd Iul Caisar yn bwrw cael hawddgarach triniad ; ac er gwyched rhyfelwr oedd efe , efe a edrychodd yn awr yn lled ddiflas ar y mater, wrth weled ei wŷr wedi digaloni ; rhai yn ei regu ef am eu tynu i'r fath ddinystr, rhai yn hanner marw yn ochain ac yn griddfan yng nghrafangau angeu , ereill yn gorwedd yn gelaneddau meirw yn ymdrabaeddu yn eu gwaed. Unwaith, yn wir, y meddyliodd i godi hwyliau , a myned adref; ond yna efe a ystyriodd y byddai hyny yn ddifenwad ac yn gywilydd byth iddo ym mysg ei gydwladwyr ; ac o achos hyny, efe a ymwrolodd drachefn , ac a ddywedodd rhwng bodd ac anfodd, " Gwaradwydd , ïe , gwaradwydd tu hwnt i ddim, i ni ddychwelyd adref wedi dyfod cyn belled a hyn ; nag e, ni a fynwn dirio, pe bai'r diawl ei hun ynddynt." Ac yna, fel yly gwelwch chwi darw yn taflu ac yn gwylltio ar ol bod dau neu dri o waedgwn wrtho un hanner awr ; felly gwŷr Rhufain hwythau a chwerwasant oddi mewn , gan ergydio eu saethau cyn amled a chenllysg at y Brytaniaid ; a lladdwyd y fath nifer o bob ochr, nes oedd y môr agos yn wridog gan waed y lladdedigion, a chyrff y meirw a'r clwyfus cyn dewed yn gor- wedd ar fin y môr a defaid mewn corlan. A phe buasai elw i Iul Caisar osod ei draed ar dir Brydain, hyny a gas efe ; eto pe ni buasai efe a'i wŷr redeg yn gyflym i gael diogelwch yn eu llongau (fel y gwelwch chwi haid o wenyn yn taro i'r cwch o flaen tymmestl), hwy a larpiasid yn dameidiau â chleddyf y Brytaniaid dewrion . O bobtu deuddeg a deugain o flynydd- oedd cyn geni Crist y bu hyn. Mi a wn o'r goreu fod Iul Caisar yn dywedyd ei hun, iddo wneuthur gryn hafog ym Mrydain. Ond pa le mae ei gym- mydogion i roddi gair o'i blaid ? Prin y gellir coelio neb yn seinio allan ei glod ei hun ; ond yn enwedig yma, pan yw ei gydwladwyr (y rhai a ysgrifenasant hanes ei fywyd) yn tystio yn eglur na wnaeth efe ond gosod ychydig fraw ar y trigolion;[1] ond nid dim o'r fath beth a'u meistroli, a dyfod â hwy dan ei lywodraeth. Ac y mae un o brydyddion yr oes hono yn canu
am ei weithred ym Mhrydain fel hyn:-
- ↑ Quanquam prosperâ pugnâ terruerit incolas, ac littore potitus sit, potest videri ostendisse posteris, non tradidisse. Vit. Agr. p. 638.