"Territa quæsitis ostendit terga Britannis."
LUCAN.
Caisar, er trydar tramor,—a giliodd
O'r golwg i'r dyfnfor,
Rhag saethau picellau por
Llu dien Fryden frodor."
Mawr a fu llawenydd a gorfoledd y Brytaniaid wedi gyru ffo, fel hyn, ar wŷr mor enwog, y rhai oeddent yn galw eu hunain yn feistri y byd. A Chaswallon y brenin a barodd i'r pen rhingyll gyhoeddi diaspad,[1] i orchymmyn pawb i aberthu i'r tadolion dduwiau. Ac yna fe anfonodd lythyrau at bendefigion, uchel swyddogion, a gwŷr da y wlad, i'w gwahawdd hwy i Lundain i wledda a bod yn llawen; ac fe ddywedir i ladd at y wledd fawr hòno ugain mil o wartheg, deng mil a deugain o ddefaid, a dau can mil o wyddau a chaprynod; ac o adar mân, gwylltion a dofion, ddau gymmaint a'r a allai neb eu cyfrif neu eu traethu;[2] a'r wledd hon oedd un o'r tair gwledd anrhydeddus Ynys Brydain.
"Ugain mil o fwystfiledd
Yn feirw a las pan fu'r wledd."
DAFYDD NANMOR A'I CANT.
Ond ni pharhaodd tegwch y llwyddiant hwn yn hir, nes i'r haul drachefn fachludo gan gwmwl gerwineb. "Nid y boreu y mae canmol diwrnod teg." Mor anwadal ac ansafadwy yw parhâd anrhydedd a golud bydol! Ac ni a welwn yn fynych rwygiadau enbyd yn dygwydd, ïe, hafog a distryw gwledydd, oddi wrth bethau bychain a distadl ar yr olwg gyntaf; ond pan unwaith y brydia o lid galon ddyn fileinig a chwerw, pwy a ŵyr pa le y diwedda? "Gwr digllon," ebe Selyf ddoeth, "a ennyn gynhen; a'r llidiog fydd aml ei gamwedd;" megys y tystia yr hanes a ganlyn.
Ryw ychydig ar ol y wledd fawr uchod, y dygwyddodd i ddau bendefig iefanc, o waed breninol, fyned allan i'r gamp i ddifyru; megys i ymaflyd codwm, neidiaw, taflu coetan, chwareu palet, chwareu cleddeu deuddwrn, &c. Enw y naill oedd Hirglas, ac efe oedd nai i Gaswallon y brenin; ac enw y llall oedd Cyhelyn, a nai oedd yntef i Afarwy, tywysog Llundain, ewythr y brenin, frawd ei dad. Ond yn niwedd y chwareu yn lle difyru a bod yn llawen, y tyfodd anghydfod ac ymrafael