Cadwed y duwiau Cæsar fawr,
A'i lu yn awr yn treiddio'
Ym mhell i Frydain, dros y môr;
A boed hawddammor iddo."[1]
Ond ni wnaeth efe ddim ond amcanu a bygwth ar flaen tafod. O gylch deng mlynedd ar hugain ar ei ol ef, y bwriadodd Caio Caisar, yr hwn oedd ddyn pendreigl ysgeler, ymweled â'r ynys hon. Efe a gynnullodd yng nghyd ei wŷr; efe a daclodd ei arfau; ac a wnaeth bob peth yn barod at y daith; ac yna, ar ol codi hwyliau, a morio ryw gymmaint o olwg tir Ffrainc, fe laesodd calondid y gwr; ac yn lle myned yn y blaen i dir Brydain i ennill clod wrth nerth arfau, fe roes orchymmyn idd ei wŷr ddychwelyd yn eu hol i dir Ffrainc, a myned a chasglu cregyn ar lan y môr: [2] ac yr oedd hyny, ond odid, yn well difyrwch na chael briwio eu hesgyrn wrth ymladd a'r Brytaniaid.
Hyd yn hyn, y cadwodd y Brytaniaid eu hawl a'u rhydddid yn gyfan rhag trais a gormes y Rhufeiniaid: a hwy a allasent wneuthur hyny o hyd, pe buasent yn unfryd ac heddychol â'u gilydd. Ond rhaid addef mai dynion diffaith cynhenus drwgoeddent; na fedrent gydfod fel brodyr yng nghyd: arglwydd un cwmmwd yn ymgecru â'i gymmydog, ac yn myned benben, fel y gwelwch chwi ddau waedgi gwancus yn ymgiprys frigfrig am asgwrn. Odid fyth y byddai heddwch parhäus drwy y deyrnas; y trechaf yn treisio'r gwanaf; ac ysbryd o ymddïal yn brydio yn ddiorphwys ym monwesau y gwŷr mawr. Ac y mae y Rhufeiniaid, er eu bod yn elynion, yn addef yn ddigon eglur, na allasent hwy fyth orthrechu'r Brytaniaid, oni buasai eu hanghydfod, a'r ymraniad ym mysg eu pendefigion eu hun. [3] Er mai un brenin oedd ben ar yr holl deyrnas (yr hwn a alwai yr hen Gymry, "Unben coronog"), eto yr oedd amryw dywysogion ac arglwyddi â llywodraeth oruchel yn eu dwylo; ac odid fyth fod y rhai hyn heb ryfel a ffyrnigrwydd rhyngddynt.
Yr oedd yr ysbryd ymddïal hwn yn fwy anesgusodol, eto, o herwydd fod eu doethion a'u gweinidogion crefydd (y rhai a enwid y pryd hwnw y Derwyddon) yn pregethu o hyd ym mhob cymmanfa, ar iddynt ystyried enbyted iddynt eu hunain, ac i les cyffredin y wlad, oedd eu gwaith yn ymrafaelio ac yn