Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/61

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yna Gloew Caisar, Ymherawdr Rhufain, a alwodd ei ben cynghoriaid yng nghyd, i wybod eu barn, pa un a wnai efe-ai rhyfela â'r Brytaniaid ai peidio a fyddai oreu. A hwy a atebasant, "Digon gwir fe gadd Iul Caisar ei drin yn hagr a'i faeddu ganddynt; eto ystyried dy fawrhydi di, pa fodd y mae gwlad Brydain wedi ymranu yn awr; nid oes dim ond y gynhen a'r anras yn eu mysg; ac y mae gyda ni un o'u goreuon yn gyfaill calonog i ni, Meurig dan ei enw. mae efe yn gwirio eisys na fydd ond ychydig ac anaml daro, hyd onid allwn oresgyn gan mwyaf eu gwlad oll. Felly, yr ŷm ni yn barnu y dylid, yn anad dim, ryfela yno; pe amgen ni a'n cyfrifir fel cler y dom, ac fel cacwn; ac y mae hyny yn anweddus i barch y Rhufeiniaid." "Gwir ddigon," ebe Gloew Caisar, "dyma'r odfa i ni ymddïal arnynt, ac ennill y sarhâd a'r golled a gadd Iul Caisar, fy hen ewythr, oddi ganddynt."

Ac ar hyny Gloew Caisar a ymwrolodd yn ei ysbryd, ac a gymmerth galon gwr; ond er hyny yr oedd efe yn gallach na mentro ei fywyd ei hun yn fyrbwyll ar chwedl Meurig; ac a archodd i'r pen capten, a elwid Plocyn,[1] os byddai hi yn galed arno, ar ddanfon hysbysrwydd o hyny ato ef i Rufain, ac y deuai efe ag ychwaneg o wŷr yn gymhorth iddo.

Yna wedi i Plocyn a'i wŷr, drwy fawr ludded, deithio cyn belled a Môr Ffrainc, a hwy yno megys yng ngolwg Brydain, eto ef a gafas ei wala o waith eu perswadio hwy i hwylio drosodd i Frydain: yr oedd dewrder yr hen Frytaniaid megys yn ddrain pigog ar eu hafu fyth. Ond rhwng bodd ac anfodd, morio a wnaethant; ac a hwy yn awr yng ngolwg y tir, y chwythodd tymmestl o wynt gwrthwyneb a'u gyru drachefn i ardal Ffrainc. Tybiodd y Brytaniaid i'r llongau ddryllio a soddi gan y dymmestl, ac a aethant ar hyny bawb ar wasgar; ond yn y cyfamser y tiriodd Plocyn a'i wŷr agos yn ddiarwybod i lu y Brytaniaid; canys y llongau a achubasant rhag soddi, er maint oedd y dymmestl.[2]

Pan oedd llu y Brytaniaid yn y fath drefn annosbarthus a hyn, a wedi gwasgaru yma ac acw ar draws y wlad, y mae yn ddilys i'r Rhufeiniaid wneuthur galanasdra nid bychan wrth ddyfod a rhuthro arnynt, a hwy yn ammharodol; ond yn anad dim o ran yr anghydfod a'r ymrafael yn eu mysg eu hunain. Eithr ym mhen ychydig, wrth weled cleddyf eu gelynion yn

  1. Plaucius.
  2. Dio. Cass. p. 506.