Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

difrodi mor ddiarbed, hwy a ddaethant i well pwyll o fod yn un a chytûn â'u gilydd; ac "O, mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yng nghyd!" canys tra y parhaodd yr undeb hwn, y cynnullasant eu byddinoedd yng nghyd dan eu pen capten a'u brenin, a elwid Cynfelyn; ac a phawb yn awr yn wresog i ymladd dros eu gwlad, buan y dialeddwyd ar y Rhufeiniaid am y gwaed a dywalltasant; ac er cyn cyfrwysed rhyfelwr oedd Plocyn, a ffyrniced i oresgyn y wlad hon, er cael clod a goruchafiaeth gan ei feistr gartref, eto gorfu arno, o anfodd ei ên, i ddanfon i Rufain am ychwaneg o gymhorth; [1] ac yna y daeth Gloew Caisar ei hun, yr ymherawdr, a'i holl gadernid i Frydain.

Yr oedd y cenadon a ddanfonodd Plocyn i Rufain i gynnull ychwaneg o sawdwyr, wedi adrodd y fath chwedl garw am ddewrder y Brytaniaid, fel na wyddai Gloew Caisar beth i wneuthur, ac arno chwant i ymddïal a chwant i aros gartref; megys anner dwym-galon, yn brefu wrth weled y cigydd yn mwrddro ei chyntafanedig,[2] ac eto heb galon i gornio y mwrddwr. Ond yno, ar ol bod yn hir yn go bendrist, y daeth yn ei gof i'r Rhufeiniaid unwaith neu ddwy ennill y maes ar eu gelynion wrth ymladd oddi ar gefn yr elephant, yr hwn sydd fwystfil hagr o faint, ac yn llwyr anghydnabyddus yn y gwledydd hyn. Ac yn wir nid oedd bosibl iddo daro ar well dychymmyg; canys ar ol iddo dirio ym Mrydain, a gosod ei sawdwyr o fesur ugain neu ddeg ar hugain ar gefn pob elephant (canys cynnifer a hyny all efe ddwyn yn hawdd), fe darfodd hyny y meirch rhyfel, yng nghyd â'u marchogion, fel y bu annhrefn erchyll drwy holl lu y Brytaniaid; a'u gelynion yn hawdd a gawsant y trechaf arnynt.

Cynfelyn, brenin y Brytaniaid, ar hyny o ymostyngodd i dalu teyrnged i Rufain, sef tasg o aur ac arian bob blwyddyn; ac y mae yr arian a fathwyd y pryd hwnw heb fyned ar goll eto, a'r ysgrifen hon fyth i'w darllen, "Tasg Cynfelin." Acyno ym mhen un diwrnod ar bymtheg yr aeth Gloew Caisar i dir ei wlad tuag adref; a choeliwch fi, nid ychydig oedd ei fost yn Rhufain, o'i waith yn darostwng y Brytaniaid wrth y fath ystranc ddichellgar; ac er coffadwriaeth o hyny, y bathwyd arian â llun Gloew Caisar ar y naill wyneb, ac elephant ar y wyneb arall.

  1. Dio. Cass. loc. cit.
  2. Vide Levit. xxvii. 26.