Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond nid oedd yn agos i ddegfed ran o'r ynys wedi ymostwng eto i dalu teyrnged i Rufain; nid dim ond y wlad o gylch Llundain, lle yr oedd Cynfelyn yn teyrnasu; canys pan amcanodd y Rhufeiniaid i eangu eu llywodraeth tua'r Gorllewin, y safodd gwr pybyr a nerthol, a elwid Caradog Freichfras, yn eu herbyn; ac yn ol yr hanes y mae'r Rhufeiniaid (er eu bod yn elynion) yn ei adrodd am dano, gwr oedd hwnw heb ei fath, nid yn unig am ei fedr a'i galondid mewn rhyfel, ond hefyd am ei syberwyd a'i arafwch; na chwyddo mewn hawddfyd, na llwfrhau mewn adfyd. Efe a ymgyrchodd naw mlynedd â holl gadernid Rhufain, ac a allasai ymdopi naw ereill, oni buasai ei fradychu ef gan lances ysgeler o'i wlad ei hun, a elwid Curtisfinddu.[1] Ac yn yr ysbaid hwnw efe a ymladdodd ddeg brwydr ar hugain â'i elynion; ac, er nid o hyd â chroen cyfan, eto fe a ddaeth bob amser yn ddiangol o'i fywyd, ac yn llawn anrhydedd. Ei araith tuag at annog ei sawdwyr, a gosod calon ynddynt, oedd at yr ystyr hyn: "Byddwch bybyr a nerthol, O Frytaniaid; yr ydym yn ymladd ym mhlaid yr achos goreu yn y byd-i amddiffyn ein gwlad, a'n heiddo, a'n rhydd-did, rhag carnladron, a chwiwgwn. Adgofiwch wroldeb eich teidau yn gyru Iul Caisar ar ffo, Caswallon, Tudur Ben-goch, Gronwy Gethin, Rhydderch Wynebglawr, a Madog Benfras."[2]

Ar ol ei fradychu i ddwylo ei elynion, fe a ddygpwyd yn rhwym i Rufain, lle y bu cymmaint orfoledd a llawenydd, a dawnsio a difyrwch, o ddal Caradog yn garcharor, a phe buasid yn gorchfygu gwlad o gewri. Ni bu dinas Rufain ond prin erioed lawnach o bobl na'r pryd hwnw; nid yn unig y cyffredin bobl, ond y pendefigion, yr uchel gapteniaid, y marchogion, a'r arglwyddi, o bell ac agos, oeddent yn cyrchu yn finteioedd i gael golwg ar y gwr a ymladdodd gyhŷd o amser â holl gadernid Rhufain. Ac yno, ar ddiwrnod gosodedig, mewn eisteddfod lawn o holl oreuon Itali, a'r ymherawdr ei hun yn bresennol, efe, â wyneb diysgog, ac â chalon ddisigl, a wnaeth araith, yn gosod allan helbulon byd, a chyfnewidiadau bywyd dyn, mor deimladwy, fel y menodd hyny gymmaint ar bawb, fel prin oedd un yn gallu ymattal rhag wylo, a dywedyd, "Wele, ym mhob gwlad y megir glow. Yng nghylch blwyddyn yr Arglwydd 53, y bu hyny.

  1. Cartismandua.
  2. Vocabatque nomina majorum. Tac. p. 242.