ddewisent golli can bywyd, pe bai hyny bosibl, cyn ymostwng i fod yn gaethweision. Ac i ddywedyd y gwir goleu, yr oedd yRhufeiniaid wedi dygn flino, ac yn edifar ganddynt ddarfod iddynt droedio tir Brydain erioed, gan mor beryglus ac anesmwyth oedd eu bywyd. Ac yno, wrth adnabod natur a thymmer y trigolion yn well, eu bod yn ddynion nad ellid fyth eu llusgo drwy foddion hagr, y cynnyg nesaf a wnaethant, oedd eu harwain i gaethiwed drwy ddywedyd yn deg, a'u colwyno drwy weniaith, a danteithion, a moethau da; megys heliwr yn elïo abwyd i ddal cadnaw mewn magl, yr hwn a fu drech na'i holl filgwn. A choelwch fi, mai dyfais enbyd a dichellgar oedd hon o eiddo'r Rhufeiniaid; canys y pendefigion yna a ddechreuasant adeiladu tai gwychion, gwisgo dillad o lawnt a sidan, cadw gwleddoedd, a dilyn pob difyrwch a maswedd; dysgasant hefyd y iaith Ladin, a phrin y cydnabyddid neb yn wr boneddig ond yr hwn a fedrai siarad Lladin. Nid oedd hyn ddim oll ond gwisgo lifrai gweision, er hardded y tybid hyny gan y werin anghall.
Ond eto, er y cawsai y Rhufeiniaid yn ddiammheu eu gwynfyd, pe buasai pawb o'r deyrnas yn dirywio i'r fath fywyd masweddol, eto yr oedd rhai â golwg sur yn edrych ar y fath feddalwch llygredig; ac ym mysg ereill, gwr a elwid Gwrgant Farfdrwch[1] a areithiodd yn y wedd hon:"Chwi ddyledogion a goreuwyr y wlad, rhowch glust i ddychymmyg: Y llew, ar foreu teg o haf, a ganfu afr yn porfäu ar ben craig uchel yn Arfon: 'O, fy nghares,' eb efe, 'beth a wnewch chwi yn dyhoeni ar dusw o wellt mor arw ag y sydd yna rhwng y creigydd?' Pa ham, fy anwylyd, na ddeuwch i waered yma i'r dyffryn, i bigo meillion a blodau gwinwydd?' 'Diolch i chwi, meistr,' ebe'r afr, 'am eich cynnyg da; ond ar hyn o dro mi a ddewisaf i aros lle yr ydwyf.' Gwybyddwch chwithau, O bendefigion, nad yw y teganau y mae y Rhufeiniaid yn eich harddu â hwynt, ddim angen na'r meillion y mae'r llew gwancus yn gwahawdd yr afr atynt. Hyhi, yn y ddammeg, a atebodd yn gall; mynwn petai chwithau yn adnabod nad yw y coeg bethau ffiloreg yr ydych yn ymdecäu â hwynt, ddim amgen na gwenwyn wedi elio drosto â mel. Hon ydyw yr ymgais olaf a'r enbytaf hefyd o eiddo'r Rhufeiniaid i'ch dwyn i gaethiwed; a dywedaf yn hy wrthych, y fath
- ↑ Fe fu brenin 375 o flynyddoedd cyn geni Crist o'r enw.