Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fywyd masweddol a'ch dyg yn ddilys i ddistryw, oddi eithr i chwi adnabod eich hunain mewn pryd, megys y gwnaeth yr afr yn y ddammeg."[1]

Ond dilyn eu rhodres a fynent hwy; ac ni chafas Gwrgant Farfdrwch ond chwerthin am ei ben, am ei ewyllys da i'w hachub rhag myned bendramwnwgl i gaethiwed. Ac o hyny allan, dros amryw flynyddoedd, y boneddigion a ymroisant i ddifyrwch a moethau; y gwŷr iefainc yn dwyn arfau, a gipiwyd ymaith i wledydd pellenig; a'r cyffredin bobl hwythau a osodwyd ar waith i ddyhyspyddu llynoedd, gwneuthur sarnau newyddion ar draws y wlad, neu wneuthur priddfeini i adeiladu tai gwychion idd eu meistraid, y Rhufeiniaid. O gylch deugain mlynedd y buont yn lled dangneddyfus, heb ddim terfysg nac ymyraeth, ond yn talu teyrnged yn lled ddiddig; ond o gylch y flwyddyn 124, pan oedd gwr a elwid Sefer yn rheoli yma dan yr Emprwr Adrian, cydfwriadu a wnaethant, dros yr holl deyrnas, i ysgwyd ymaith awdurdod y Rhufeiniaid, ac i gleimio eu rhydd-did a'u braint unwaith eto. Eu dirmyg ar foneddig a gwreng a gyffroawdd y trigolion i fwrw ymaith iau eu caethiwed. A dywedir, oni fuasai fod Adrian yr ymherawdr a'i holl lu ger llaw, a hwylio drosodd yn ebrwydd yn gynnorthwy cyfamserol, y Rhufeiniaid, ar hyn o bryd, a dorasid ymaith yn gyfan-gwbl; ac eto hi a fu gyfyng iawn arnynt, er mai hwynt-hwy, digon gwir, a gawsant y trechaf yn y diwedd.[2]

Ac ar hyn o bryd, wele ddychymmyg arall ac ystryw o eiddo'r Rhufeiniaid i gadw tan law yr hen drigolion; canys gwnaethant glawdd mawr o dyweirch a pholion, bedwar ugain milltir o hyd, draws yr ynys, o fôr i fôr, sef o Abercwnrig, y naill ran o'r ynys tua'r dwyrain, hyd yn Ystrad Clwyd, tua'r gorllewin; sef yn agos i gydiad Lloegr ac Iscoed Celyddon, neu Scotland, lle mae yr ynys yn gulaf drosti.[3] Pwy bynag ni roddai ufudd-dod i lywodraeth y Rhufeiniaid a yrid allan o gyffiniau Lloegr, y tu arall i'r clawdd; a sawdwyr yn gynnifer pentwr yma ac acw, ar bwys y clawdd, yn gwylied, i gadw pawb allan o'r tu draw.

Dros dalm ar ol hyn y bu amser lled heddychol, megys heddwch rhwng boneddigion, oddi eithr ambell wth a bonclust yn awr a phryd arall, yma ac acw. Ond, megys

  1. Vet. Mss.
  2. Spartian. ap. c. p. 67.
  3. Edrych y Map