wrth groni afon redegog, hi a erys ond odid yn llonydd ac yn dawel dros encyd; eto pan ddêl llifeiriant, hi a ffrydia yn rhaiadr gwyllt dros yr ystanc, ac a dreigla ac a chwilfriwa pa beth bynag a saif ar ei ffordd: felly y Brytaniaid hwythau, er eu bod dros amser yn lled esmwyth, eto, wrth weled eu trin mor hagr, ac fel estroniaid yn eu gwlad eu hun, a gymmerasant galon o newydd eto. Er bod eu gwŷr dewisol, pigion a blodau ieuenctyd y wlad, wedi eu cipio o drais y tu draw i'r môr, megys yr oedd y Rhufeiniaid yn arferol o wneuthur, eto yr oedd digon o ysbryd chwerw o ymddïal yn brydio calonau y gwŷr oedd gartref; canys y gwŷr y tu draw ni wnaethant fwy cyfrif o'r clawdd, nag a wna march rhyfel i neidio dros gornant; a phreswylwyr Lloegr a Chymru hwythau, y tu yma i'r clawdd, a godasant yn un a chytûn dros wyneb yr holl wlad, nes ei bod hi yn amser gwaedlyd y pryd hwnw ym Mhrydain. Cynllwyn am waed, lladd a dyfetha eu gilydd drwy boenau a chreulonder, llosgi tai â gwŷr a gwragedd a phlant o'u mewn; ar air, ymffyrnigo mewn dialedd oedd agos yr unig beth ag oedd y Rhufeiniaid a'r Brytaniaid yn astudio arno dros amryw ac amryw flynyddoedd. Digon gwir, hwy a lonyddent dros ychydig amser i gymmeryd eu hanadl, megys dau darw gwyllt yn ymgornio, ac yn gadael heibio dros ychydig; ond yna eu llid a frydia o newydd, a myned i ymdopi yn ffyrnicach nag o'r blaen.
Fe syrthiodd peth aneirif o bob gradd ac oedran, yn gystal o'r Rhufeiniaid ag o'r Brytaniaid, yn y terfysg yma, yr hwn a barhaodd dros gymmaint o flynyddoedd. Dywedir i ddeng mil a deugain o sawdwyr a swyddogion Rhufain, heb law ereill hyd wyneb y deyrnas, gael eu trywanu â chleddyf y Brytaniaid. Y gwirionedd yw hyn, yr oedd y ddwy genedl yn bengam eu gwala; ni fynai'r naill ddim i blygu ac ymostwng, na'r llall ddim i adael heibio wedi dechreu.
Felly y newyddion nesaf sy genym ni am danynt yw o gylch y flwyddyn o oedran Crist 197, pryd y daeth yr ymherawdr a elwid Sefer, â llu mawr iawn ganddo, drosodd i Frydain, sef agos i gan mil rhwng meirch rhyfel a gwŷr traed, gan lwyr fwriadu gwbl ddyfetha cenedl y Brytaniaid oddi ar wyneb y ddaiar. Canys nid hwyrach nag y tiriodd, efe a roddes orchymmyn idd ei sawdwyr mewn pennill allan o hen brif fardd:—[1]
- ↑ Ex Homer. Il. 3.