"Na edwch Fritwn yn y wlad, ond lleddwch oll i gyd;
Gwryw a benyw, mawr a bach, difrodwch oll yng nghyd."
Ond er gwaethaf hyn o fygwth i daro braw a'u digaloni, fe gafas ei wala o waith i ddarostwng pob man dan ei lywodraeth. Am y rhan fwyaf, digon gwir, a hwy wedi cael ond gormod prawf eisys o ddyhirwch rhyfel, ac yn enwedig wrth ystyried nad oedd e ddim sarhâd na chywilydd i'r Brytaniaid ymostwng i dalu teyrnged, pan oedd yr holl fyd (h.y., y rhan fwyaf o'r byd adnabyddus y pryd hwnw) dan awdurdod y Rhufeiniaid, ac yn eu cydnabod yn feistraid; am hyny, meddaf, y danfonasant genadwri at yr ymherawdr, ar fod yn wiw ganddo alw yn ol a diddymu y gorchymmyn gwaedlyd a roddes efe o'r blaen idd ei filwyr, ac y byddent hwythau wedyn yn ddeiliaid ffyddlon iddo. A'r ymherawdr yno, ar ol cael deuddeg o ben goreuon y deyrnas yn wystlon ar iddynt gyflawnu eu gair, a'u derbyniodd idd ei ffafr; ac ar hyny y gwnaethpwyd ammodau o heddwch rhwng y ddwy genedl.
Ond er i'r rhan fwyaf o'r deyrnas gymmeryd llw o ufudddod, eto yr oedd miloedd o rai cyndyn (a Merfyn Frych Wynebglawr yn ben capten arnynt) nad ymostyngent ar un cyfrif i lywodraeth pobl pellenig, er gwaethaf eu holl gadernid a'u bygythion. O blegid hwy a gilient i'r anialwch a'r corsydd, lle nid allai y Rhufeiniaid ddim eu canlyn heb berygl bywyd. A phrin y gellid eu newynu chwaith; o blegid fod ganddynt ryw damaid gymmaint a ffäen a gadwent yn eu geneuau, a fwriai ymaith chwant bwyd.[1] Ond o fesur ychydig ac ychydig, hwy a ddofwyd, ond nid heb golli llawer o waed o bob ochr. Ond nid ymddiriedodd yr ymherawdr fyth iddynt; canys efe a'u danfonodd hwy y tu arall i'r clawdd, yr hwn a adgyweiriodd efe o fôr i fôr, ac a'i gwnaeth yn gadarnach o lawer na'r hen glawdd, er nad oedd e eto ond o dyweirch a pholion; ac a enwir hyd heddyw Gwal Sefer; am ba un y cân rhyw hen fardd fel hyn:—
Gorug Seferus waith cain yn draws dros Ynys Frydain,
Rhag gwerin gythrawl, gwawl fain."
Dyn dewr calonog oedd Sefer, ac a gadwodd, tra fu efe yn teyrnasu, bob peth yn wastad ac yn heddychlon. Efe a fu farw bl. yr Arg. 213, yng Nghaerefrog; a'r geiriau diweddaf a ddywad efe ar ei wely angeu oeddent, "Mi a gefais yr ym
- ↑ Dio. Cass. ap. c. p. 45.