Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/75

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llygaid eu gilydd am olwyth o gig, heb fod well oddi wrtho, y mae corgi taiog yn dyfod heibio, yn myned ymaith â'r golwyth, ac yn gadael y ddau golwyn i wneuthur heddwch gan eu pwyll. Mawr oedd gorfoledd y Brytaniaid, a'u diolchgarwch i Gysteint, am eu hachub o grafangau plant annwn, y Ffrancod. Bathwyd arian yn Llundain er anrhydedd iddo; a gosodwyd ar y naill wyneb ei ddelw ef, ac ar y wyneb arall teml rhwng dwy eryr, gan arwyddocäu wrth hyny, mae yn debygol, fod eu braint eglwysig yn ddiogel dan ei nawdd ef; canys ei fod efe yn ffafrio y Cristionogion, ac yn gwneuthur mwy cyfrif o honynt nag o neb ereill, sydd eglur ddigon oddi wrth yr hanes nodedig hon o'i fywyd:[1] Meddyliodd ynddo ei hun i gael profiad hollol, pa un ai Cristionogion cywir ai rhagrithwyr oedd swyddogion ei lys; canys Cristionogion gan mwyaf oeddent oll. Felly efe a'u galwodd hwy oll yng nghyd, ac a ddywad wrthynt, mai ei ewyllys oedd y cai y sawl a aberthai i'r duwiau gadw ei fraint ac aros yn y llys; ond y cai y sawl nad ymostyngent i hyny, ymadaw o'i wasanaeth ef. Ar hyny, y Cristionogion cywir, gan oblygu eu penau a aethant allan; ond y rhagrithwyr a arosant gyda'r ymherawdr, ac a ddywedasant eu bod hwy yn fodlon i aberthu. Ac yna yr ymherawdr a barodd alw i mewn y rhai a aethant allan, ac a'u gwnaeth hwy yn ben cynghoriaid; ond efe a ymlidiodd ymaith y rhagrithwyr, gan farnu yn uniawn na fyddai y cyfryw rai ag oedd fradychus i Dduw, fyth yn ddeiliaid ffyddlon iddo ef.

Erioed ni bu gwr o Rufain mor anwyl gan y Brytaniaid a Chysteint; ac yntef a'u hoffodd hwythau o flaen un genedl arall; a phrin y gellir gwybod pwy oedd yn caru y naill y llall oreu, ai hwynt-hwy yn eu parch a'u hufudd-dod iddo ef, ai yntef yn ei foesau da a'i diriondeb tuag atynt hwythau. Ac fel y sefydlid heddwch parhäus rhwng y ddwy genedl, ac i symmud ymaith o hyny allan bob llid, a chwerwder, a digofaint, efe a brïododd Elen (y bendefiges lanaf a goreu ei rhinwedd dan haul), merch Coel Codebog, yn awr yn Frenin Brydain, a'i wraig Stradwen, merch Cadfan ab Conan, Tywysog Gwynedd; ac o'r Elen hon y ganwyd i Gysteint fab, a elwir Cystenyn Fawr, y gwr enwocaf o'r byd Cristionogol, a'r ymherawdr cyntaf a fedyddiwyd i ffydd Iesu Grist.

  1. Sozom. Hist. Eccles. lib. 1 , cap. 6.