Elen oedd Gristionoges wresog yn y ffydd, a chymmaint yn rhagori ar ereill yn ei dyledswydd at Dduw a dyn, ag oedd hi mewn anrhydedd a goruchafiaeth fydol. Hi a aeth i Gaersalem i weled y lle y dyoddefodd Crist Iesu dros bechod y byd, yn ol yr hyn a ddywad yr angel wrth y gwragedd, "Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd." (Mat. xxviii. 6.) Ac yno, drwy fawr ludded ac anhawsdra, hi a gadd y groes y dyoddefodd Crist; canys y paganiaid a daflasant yno grug aruthrol o geryg, o'u casineb i'r Cristionogion, ac yn y gwaelod y cafwyd tair croes; ond o blegid fod yr astell yn cynnwys yr ysgrifen wedi tori, ac yn gorwedd ar neilldu, croes Crist, medd yr hen hanesion, a adnabuwyd wrth fod â rhinwedd ynddi i iachäu clefydon.[1] Am ba weithred y mae un o'n beirdd ni yn canu, ac yn ei galw hi Diboen:—
"Diboen, ferch Coel Codebog,
I gred a gafas y grog."
Hi a fu farw yn llawn o ddyddiau, yn bedwar ugain oed, ac a gladdwyd yn Constantinopl; ond Cysteint yr ymherawdr a fu farw yn mhell o'i blaen hi, sef yn y flwyddyn 313, ac a gladdwyd yng Nghaerefrog, yn Lloegr. Dywedir i gael yn ei feddrod ef, yn amser Iorwerth y Chweched, lamp a gynneuodd yno yn wastadol er yr amser y claddwyd ef, hyd y pryd hwnw, sef dros ychwaneg na deuddeg cant o flynyddoedd. [2] Cafwyd yr un fath lamp ym meddrod Tulia, merch Cicero yr areithydd, yr hon a gynneuodd yng nghylch 1550 o flynyddoedd,[3] ond hi a ddiffoddes yn y man cyn gynted ag y daeth goleu'r dydd i mewn. Dychymmyg odiaeth ryfeddol oedd hon o eiddo yr hen bobl i wneuthur lamp fel hyn i gynneu yn wastadol yn y tywyllwch; tybai rhai mai aur wedi gyfnewid i rith arian byw oedd yn pesgu'r lamp; ond pa fodd bynag yw hyny, mae'r gelfyddyd wedi ei cholli yn awr.
Er cyn gynted ag y clybu Cystenyn Fawr yn Rhufain fod ei dad yn glaf, er meithed oedd y ffordd, eto prin y rhoddes efe hun i'w amrantau nes ei ddyfod i dir Brydain; ond yno yr hen wr oedd ar dranc marwolaeth. Yr oedd y pryd hwnw derfysg a gwrthryfel yn yr Ital, am ba ham nid allodd Cystenyn aros ond ychydig amser ym Mrydain ar ol claddu ei dad; ond cyn ymadael efe a drefnodd bob peth yma er cadw llonydd-