wch yn y deyrnas. Eyddaf, ei gefnder, a wnaeth efe yn ben ar Loegr gan mwyaf oll; Cenau ab Coel, ei ewythr, brawd ei fam, a appwyntiodd efe yn rhaglaw i lywodraethu Cerniw; Cynedda Wledig, ei gefnder, sef mab Gwawl, ei fodryb, chwaer ei fam, a osodes efe yn dywysog ac yn rheolwr Cymru; ac Einion Urdd, câr arall iddo, a sefydlodd efe â llawn awdurdod yn y Gogledd tua chydiad Lloegr a Scotland. Ac ar hyny efe a ymadawodd, a chododd llu mawr o Frydain gydag ef, i ymladd yn erbyn y rhai oeddent yn ymgeisio â'r goron. Eithr, ar ol darostwng y gelynion, ni ddychwelodd ond ychydig o'r rhai hyny adref; eithr arosodd rhai yn Rhufain, ac ereill a arosasant yn y rhan hòno o deyrnas Ffrainc a elwir Llydaw: a hon oedd y waith gyntaf i'r Brytaniaid fyned i breswylio yn Llydaw, sef yn y flwyddyn 313.
Cyd-dylwyth oedd yn awr gan hyny yn eistedd ar orseddfeinciau Rhufain a Brydain; am ba ham ni cheisiodd Cystenyn Fawr ddim arian teyrnged o Frydain, ond rhyw gydnabyddiaeth yn unig mai efe oedd ben. Yr oedd ganddo ei wala; oedd ei wala wen y tu hwnt i'r môr, yn Ymherawdr Ffrainc, ac Hispaen, a Germania, a'r Ital, yr Aipht, a Mesopotamia, a Iudea, a Chappadocia, Phrygia, Pontus, ac Asia; ac onid oedd hyn ddigon?
Ond i ddychwelyd i Frydain. Eyddaf, wedi heneiddio, ac iddo ond un ferch yn unig, a'i henw Elen, a chwennychai, megys gwr call, sefydlu y goron yn ei fywyd, rhag bod ymgais am dani, a therfysg ar ol ei ddyddiau ef. A chynghor ei arglwyddi oedd, ei rhoddi hi yn briod i garwr iddi a elwid Macsen Wledig, yr hwn oedd o ran ei dad yn Gymro, fab Llywelyn, brawd Coel Codebog; ond o ran ei fam yn Rhufeiniad (canys Llywelyn a aethai gyda'i nai, Cystenyn Fawr, i Rufain, ac a briodasai yno), ac a anwyd ac a fagwyd yn y llys yn Rhufain; ac a o ran tad a mam o waed breninol; ac am hyny a farnwyd yn briod gweddus i Elen, etifeddes y goron. Yr oedd Macsen Wledig y pryd hwnw yn Rhufain, ac, fel yr oedd gwaetha'r bod, wedi newydd syrthio allan â'r ddau ymherawdwr, Falentinian a Grasian, am na chai yntef fod yn drydydd. Ac erioed ni bu lawenach ei galon na phan ddaeth y genadwri ato o Frydain i gynnyg Elen, merch Eyddaf, yn wraig iddo, yng nghyd â choron Lloegr yn waddol gyda hi.
Ond wedi priodi Elen, ni bu efe ddim bodlon i wisgo coron Lloegr yn unig (a phe gwnaethai hyny, e fuasai o