goffadwriaeth ddedwydd); ond efe a fynai fod yn ben ymherawdr y byd. Eto, i ddywedyd y gwir, nid ei ryfyg ei hun, ond cariad y milwyr ato a'i cymhellodd ef o'i anfodd i wneuthur yr hyn a wnaeth; ac y mae pawb yn tystio, nad oedd wr dan haul yn weddusach i fod yn ymherawdr, pe buasai ei deitl yn dda; ac er hyny, yr oedd efe yn gâr agos i Elen Lueddawg, mam Cystenyn Fawr.[1]
Ond bynag pa fodd, cymmaint oedd ei barch gyda goreuon y llu, fel y dewiswyd ef yn ymherawdr, a'i gyhoeddi, nid yn unig ym Mrydain, ond gan y llu tu hwnt i'r môr hefyd; ac yntef, ar hyny, o'i led anfodd, a gymmerth ei berswadio; a rhag bod dim yn rhwystr ar ei ffordd, y fath oedd ei gariad ym mhob gwlad, fel y declariodd llu aneirif o ddewis filwyr y Brytaniaid eu bod yn llwyr fwriadu i sefyll gydag ef, ac na chai dim ond angeu fyth eu gwahanu oddi wrtho; ac yna hwylio a wnaethant i deyrnas Ffrainc.
Y ddau ymherawdr cyfreithlon ar hyny (sef Falentinian a Grasian) oeddent agos â gorphwyllo, a pheth i wneuthur ni wyddent. Ond tuag at attal eu cyrch ym mhellach tua'r Ital, gwnaethant gynghrair â barbariaid gwylltion o Sythia, rhai a fuasent o'r blaen yn anrheithio gwlad Brydain, ac a'u danfonasant drosodd ag arian ac arfau, a'u hannog i wneuthur pa ddrygau oedd bosibl, sef i ladd, a llosgi, a dinystrio hyd ddim y gallent; gan hyderu y dychwelai Macsen ar hyny i Frydain i achub ei deyrnas ei hun; (a phwy a allai ddysgwyl llai?) megys haid o frain yn myned allan o'u nythod i chwilena, ac i gipio'r had oddi ar wyneb y maes, os dygwydd cafod ddisymmwth o gesair dygasog, yna hwy a ehedant ar frys i achub eu cywion gartref. Ond Macsen yn awr wedi ymgaledu yn ei ddrwg, oedd â'i lygad ar bethau uwch nag achub ei wlad ei hun rhag y Ffichtiaid gormesol (canys dyna oedd enw'r bobl a ddaethant o Sythia); felly efe a'i wŷr, ym mlaen yr aethant tua'r Ital; a phan oedd Grasian, gwr ieuanc grasol o gylch 25 oed, yn brysio adref i ymweled â'i briod newydd-weddawg, ac efe yn rhydio afon yn ei gerbyd, efe a syrthiodd i gynllwyn Anarawd Gethin,[2] un o uchel gapteniaid Macsen, ac a laddwyd; a Falentinian ei frawd, rhag y trinid yntef yn yr un modd, a giliodd ar encil ym mhell i Asia, tua'r Dwyrain.[3].