Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/79

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi bod cyhŷd mor llwyddiannus yn eu gwrthryfel, y newydd nesaf, fe all dyn dybied, a fyddai coroni Macsen Wledig yn ymherawdr; o blegid yn awr fod y ffordd yn rhydd: ond yma y gwiriwyd yr hen ddiareb, mai "drwg y ceidw y diawl ei was; canys, pa un ai ofni y dychwelai Falentinian â llu cadarn o Asia, ai bod eu cydwybod yn eu brathu oddi mewn; ai hyny ai beth bynag oedd yr achos, efe a laddwyd gan ei wŷr ei hun, yng nghyd ag Owen Finddu, ei fab; ac Anarawd Gethin ar hyny a syrthiodd i bwll ar ei ben, yn yr un man ag y gosodes efe gynllwyn am waed gwirion y gwr da hwnw Grasian. Ac yna holl lu Macsen a wasgarwyd draw ac yma hyd wyneb y gwledydd; ond y rhan fwyaf, yng nghyd â'u pen cadben, Conan, Arglwydd Meiriadog, a arosasant gyda'u cydwladwyr yn Llydaw: a hon oedd yn ail waith i'r Brytaniaid wladychu yno, sef o gylch y flwyddyn 383.

Conan ni fynai ymgyfathrachu â neb ond â'i genedl ei hun. Am hyny efe a anfonodd i Frydain am wragedd; a danfonwyd iddo un fil ar ddeg, rhwng merched gwŷr cyfrifol ac ereill o isel radd. Ac fel yr oeddent yn hwylio tua Llydaw, y cyfododd tymmestl ddirfawr, fel y soddes tair o'r llongau; ond y deuddeg diangol a yrwyd gan gynddeiriogrwydd y gwynt i barthau Llychlyn, ac a ddaliwyd gan y Ffichtiaid. "Ac yna,' ebe'r cronicl, "gwedi canfod o'r ysgymmun bobl y morwynion, a gweled eu teced, ceisiaw a wnaethant i lenwi eu godineb â hwy; a chan na fynodd y morwynion gydsyniaw ag hwynt, sef a orug y bradwyr eu lladd." Yr ydys yn cadw dydd gwyl, er coffadwriaeth i'r gwyryfon hyny, Hydref 21, ag a elwir Gwyl y Santesau. Ac y mae eglwys yng Ngheredigion[1] a elwir Llan Gwyryfon, a gyfenwid felly ar ei chyssegriad er cof am danynt. Dywedir i Frytaniaid Llydaw, ar ol hyny, gymmeryd merched y wlad hòno yn wragedd iddynt; a phan enid plentyn (os gwir yw'r chwedl), pob un yno a dorai dafod ei wraig, rhag y buasai hi yn difwyno yr iaith, ac yn dysgu i'r plant siarad llediaith.[2]

Nid oedd o gylch yr amser yma, yn nhir Brydain, ddim ond annhrefn a'r anras gwyllt: cyhoeddid gwr yn ymherawdr heddyw, ac y dorid ei ben ef dranoeth i roddi lle i ryw un arall; a hwnw o fewn ychydig ddyddiau a gai yntef yr un dienydd. Nid yw wiw osod i lawr eu henwau,[3] eto un o honynt, yr

  1. Rhandir Aberteifi.
  2. Ms. Vet.
  3. Soz. Hist. Eccles. lib. 9, cap. 11-15