"Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Sabbaoth," yn hen gân Sant Ambros.
Ond nid gwiw i ni freuddwydio am bethau fel hyn; nid oes genym chwaithach hyn, na darlun, na delw (bust) o Ficer Llangammarch, er ein bod wedi cael ein bendithio â chofiantau, a bucheddau, a darluniau bron yn ddiddiwedd o bersonau na chlywyd son am danynt allan o'r llefydd ym mha rai yr oeddynt yn blaguro tra buont byw, ac am ba rai ni theimla neb awydd yn awr wybod dim yn neillduol.
Eto, er gwaetha'r cwbl, y mae genym ryw faint o hanes yr ysgolhaig a'r hynafiaethydd enwog hwn; a dywenydd mawr yw i ni allu ei osod i lawr yma, fel y bo ar gof a chadw o dan yr un cloriau a'r Drych.
Un o Sir Aberteifi o enedigaeth oedd y Parchedig Theophilus Evans: yn wir y mae ffraethineb a llithrigrwydd tafodiaith pobl Glan Teifi yn eithaf amlwg yn ei ysgrifeniadau. "Ym mhob gwlad y megir glew," medd yr hen ddiareb; ïe, yn wir, felly y mae yn bod; ond tybiwn fod Ceredigion wedi rhoddi genedigaeth i fwy o ddynion o argraff a chymmeriad Mr Evans nag un swydd arall yn y Dywysogaeth yma.
Yr oedd Mr Evans yn hanu o deulu cymmeradwy, yn byw yn Pen y Wenallt, yn agos i Gastell Newydd yn Emlyn. Ei dadcu, Evan Griffith Evans, a lysenwid yn ei amser "Captain Tory, who for his king fought and bled," oddi wrth, mae'n debyg, ei sel a'i ymlyniad wrth y Brenin Charles I, yn amser y Gwrthryfel.
Pummed mab Charles Evans, mab Evan Griffith Evans, Pen y Wenallt, o ail wraig, oedd Theophilus Evans. Brawd