Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/81

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'u gwaith yn anrheithio'r wlad hon wedyn. Ond eto fe arosodd yma filoedd a miloedd o bobl Rhufain, y rhai oeddent wedi ymgyfathrachu â'r hen drigolion, ac felly wedi myned yn un genedl â hwy. Ac erbyn hyny y mae yn amlwg ein bod ni, gweddillion yr hen Frytaniaid, yn bobl gymmysg o Wyddelod,[1] Groegiaid,[2] a Rhufeiniaid.

PENNOD III.

Y RHYFEL A FU RHWNG Y BRYTANIAID A'R BOBL A ELWID Y FFICHTIAID, NEU Y BRITHWYR.

NID yw'r dysgedig ddim wedi cwbl gyduno arno o blegid cyffgenedl neu ach pobl y Ffitchiaid, y rhai a elwid felly o'r gair Lladin Picti, am eu bod yn britho eu crwyn ag amryw luniau, yn enwedig â math o liw glas; ond eu henw yn Gymraeg yn ddilys ddigon yw y Brithwyr; ac felly y galwaf fi hwy yn yr ymadrodd a ganlyn.

Tybia rhai gwŷr diweddar mai Brytaniaid gwylltion anfoesol oeddent, neu yn hytrach y cyfryw rai dewrion, y tu hwnt i Wal Sefer yn y Gogledd, nad ymostyngent ar un cyfrif dan iau y Rhufeiniaid, a bod yn gaethweision dan eu llywodraeth.[3] Ond yn ol yr hen hanesion, pobl grwydredig bellenig oeddent o Sythia, y rhai a diriasant o gylch y flwyddyn 75 ym Mrydain, dan Rodri eu pen capten, wedi eu gyru gan y newyn o'u gwlad eu hun. Ac am y mynai Rhodri a'i wŷr aros yma heb ofyn cenad, heb ddangos dim cydnabyddiaeth, na thâl, na diolch, yna Meurig, un o freninoedd y Brytaniaid, a alwodd yng nghyd ei lu i wybod beth a allai nerth arfau wneuthur. Ar yr ymgyrch cyntaf, pan oedd y fyddin flaen yn dwys ergydio eu saethau, Rhodri a laddwyd yng nghyd â hanner ei lu; ac er coffadwriaeth o hyny, o oes bwy gilydd, y parodd Meurig, Brenin y Brytaniaid, argraffu ar lech y ddau air hyn, “Buddugoliaeth Meurig." Ar hyny y deisyfodd hanner arall y llu ammodau heddwch gan y Brytaniaid; ac ar eu gwaith yn taflu lawr eu harfau ac yn ymostwng, y caniataodd y brenin eu hoedl

  1. O blegid mai hwynt-hwy oedd yr hen drigolion.
  2. O blegid mai gwŷr o Asia, a Groegiaid, oedd Brutus a'i bobl.
  3. Camd. sub. Picti. Baxt. Gloss. Antiq. Brit. p. 195.