am ddim afreolaeth a therfysg a wnaethant dros agos i dri chant o flynyddoedd ar ol iddynt gael cenad i wladychu yma. Megys aderyn gwyllt pan dorer ei esgyll, a fydd yn dychlamu ac yn selgyngian o gylch ty gydag un dof; ond pan dyfant drachefn, efe a ddengys o ba anian y mae; felly y Brithwyr hwythau, ar ol iddynt ymgryfhau, ond yn enwedigol ar ol iddynt gyfeillachu â'r Seison a'r Ffrancod (pobl ag oedd yn byw ar ledrad ac anrhaith y pryd hwnw), rhuthro a wnaethant ar eu hen feistraid, y Brytaniaid, a'u llarpio mor ddidrugaredd ag y llarpia haid o eryrod ddiadell o ŵyn. Ond nid oedd hyn ond ar uchaf ddamwain, pan y byddai cyfle, a llu y Brytaniaid ar wasgar, neu yn bell oddi wrthynt; ond er cynted ag y clywent drwst y saethyddion, hwy a gilient o nerth traed i'r mynydd-dir a'r diffeithwch, tu hwnt i Wal Sefer; megys corgi yn ymddantu â march rhygyngog, os dygwydd iddo gael cernod, yna efe a brysura yn llaes ei gynffon tuag adref. Chwi a glywsoch yn y bennod o'r blaen modd y cododd gan mwyaf holl lu a ieuenctyd y Brytaniaid gyda Macsen Wledig tuag at ei wneuthur yn ben ymherawdr byd; ac hefyd fel y darfu i Falentinian a Grasian roddi llongau ac arfau, ac arian, i bobl Sythia, a'u danfon i Frydain, a'u hannog i wneuthur pa ddrygau oedd bosibl, gan hyderu y dychwelai Macsen Wledig ar hyny adref i achub ei wlad ei hun; ac er eu bod yn llu cadarn o honynt eu hunain; eto, rhag na buasai hyny ddigon, gwahoddasant y Seison a'r Ffrancod i fod yn gynnorthwy iddynt, fel y gallent, o byddai bosibl, lwyr ddyfetha cenedl Ꭹ Brytaniaid, a rhanu'r wlad rhyngddynt. Yn awr, dyma'r amser, sef o gylch y flwyddyn 386, ac o hyny allan, y teimlodd ein hynafiaid hyd adref bwys digofaint y Goruchaf am eu hannïolchgarwch yn ei erbyn. Canys dyma bedair cenedl ysgymmun a ffyrnig, y Seison, y Ffrancod, y Brithwyr, y Gwyddelod, wedi cyfrinachu i dywallt gwaed a difrodi, digrifwch y rhai oedd poenydio, rhwygo, a llosgi dynion; a chyn belled o ddim tosturi a theimlad, fel mai'r gerdd felusaf ganddynt a fyddai clywed ocheneidiau a griddfan y lladdedig; "Eu bwäu a ddrylliodd ein gwŷr iefaine, wrth ffrwyth bru ni thosturiasant: eu llygaid nid eirchiasant y rhai bach.' Pan oedd pedair cenedl annhrugarog (wedi eu meithrin i dywallt gwaed o'u mebyd) yn ymryson pwy fyddai gïeiddiaf i boenydio dynion, megys pedair arthes wancus yn ymgrafangu wrth ddifa carw, pa dafod a all fynegu y galanasdra a
Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/83
Prawfddarllenwyd y dudalen hon