Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wnaethant? ond yn anad dim, pan nad oedd yn y wlad ond prin wr wedi ei adael i daro ergyd yn eu herbyn? Y dinasoedd caerog, yn wir, a ymgadwasant heb nemawr o daraw, ond y mân drefydd oeddent megys cynnifer goddaith yn fflamio hyd entrych awyr, a'r trigolion druain yn rhostio yn fyw yn eu canol, tra yr oedd y Brithwyr hwythau a'u cyfeillion (plant annwn) yn agor eu safnau cythreulig o grechwen.

Yn y cyfamser, nid oedd Macsen Wledig ddim yn anysbys o gyflwr gresynol ei wlad; ac er cynddrwg dyn y bernir ef gan rai, eto ar hyn o bryd efe a anfonodd trosodd ddwy leng, hyny yw o gylch pedair mil ar ddeg;[1] ac fe allasai hebgor hyny yn hawdd ar hyn o dro; canys yr oedd efe eto yn Ffrainc, a'r holl deyrnas hono a'i chyffiniau wedi ymddarostwng dan ei lywodraeth.[2] Erioed ni bu llu o wŷr arfog mor gymmeradwy na phan diriodd y llu hwn yn gymhorth cyfamserol i'r Brytaniaid. Y gelynion oeddent o leiaf dri chymmaint o nifer, ac ar hyn o bryd wedi gwasgaru yn finteioedd o fesur pedwar neu bum cant yng nghyd, dros wyneb y deyrnas; a chyn cael odfa na chyfle i ddyfod yng nghyd yn gryno, y rhai o gylch Caint, a Llundain, a chanol Lloegr, a gwympwyd bob yn fintai agos i gyd; ond y rhai o gylch Cymru, ac agos i lan y môr, a ddiangasant yn eu coryglau3[3] i'r Iwerddon.

Eisieu rhagweled pethau mewn amser a fu yn dramgwydd i filoedd; ac yn nyddiau dysglaer, i esgeuluso barotoi rhag dryghin yw rhan yr ynfyd. Ac felly ar hyn o bryd, ar ol cael y trechaf ar eu gelynion, nid oedd yr hen Frytaniaid ysmala hwy yn pryderu rhag un ymgyrch arall; ond diswyddo eu milwyr a wnaethant, megys pè na buasai dim rhaid wrthynt mwyach. Nid oes yn wir ddim hanes neillduol o blegid pa ddrygau a wnaeth y Brithwyr a'u cyfeillion dros rai blynyddoedd ar ol eu herlid y waith hon, oddi eithr eu bod yn lledrata gyr o dda a defaid, a llosgi ambell bentref, yn awr a phryd arall, ac yna chwipyn ar gerdded; megys barcut ar gip yn dwyn cyw, ac yna ymaith gynted ag y gallo. Ond pan gydnabu y Brithwyr fod y Brytaniaid wedi gadael eu cleddyfau i rydu, a bod math o hurtrwydd wedi eu perchenogi, megys rhai yn dylyfu gên rhwng cysgu a pheidio, yna danfon a wnaethant at eu hen gyfeillion, y Ffrancod a'r Seison, a'u gwahawdd trosodd i wneuthur pen ar bobl ddi-

  1. Galf. Hist. Brit. lib. 5, cap. 16.
  2. Brower in Venut. Fortun. lib. 3, p. 59.
  3. Carruca, Gild. p. 15.