Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/85

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

doraeth a musgrell, nad oeddent dda i ddim ond i dwymno eu crimpau wrth bentan, ac ymlenwi.

Y Brytaniaid yn ddilys ddiammheu ar hyn o amser, oeddent wedi dirywio yn hagr oddi wrth eu gwroldeb gynt; canys yna, ar waith y Brithwyr a'u cyfeillion yn rhuthro arnynt, nid oedd galon yn neb i sefyll yn eu herbyn, mwy nag a all crug 0 ddail ar ben twyn sefyll yn erbyn gwth o wynt. Er lleied o wŷr arfog oedd y pryd hwnw ym Mrydain, eto pe buasent yn galw ar Dduw am ei gymhorth, ac yn ymwroli, byth ni fuasai i fath dreigl ladronach ag oedd eu gelynion yn awr yn eu sathru mor ddidaro, ac heb godi llaw yn eu herbyn; ond hwynt-hwy digaloni a wnaethant, ac yn lle arfogi eu hieuenctyd, a'u hannog i hogi eu cleddyfau, a anfonasant lythyr cwynfanus at eu hen feistraid, y Rhufeiniaid, yn taer ymbil am gymhorth i yru y barbariaid allan o'u gwlad. Prin y gallasent ddysgwyl y fath ffafr y pryd hwnw, am fod mwy na gwaith gan y Rhufeiniaid gartref, ac hefyd yn eu cof yn ddigon da wrthryfel Macsen Wledig; eto yr ymherawdr a dosturiodd wrthynt, ac a ddanfonodd leng o wŷr dewisol, h.y., o gylch saith mil, neu medd ereill, 6666. Cyn gynted ag y tiriasant, y chwedl a aeth allan (a chwedl a gynnydda fel caseg eira) fod yma bump lleng wedi dyfod;[1] ac ar hyny y Brithwyr y rhai oeddent yn anrheithio canol y wlad a ffoisant ymaith y tu hwnt i Wal Sefer, i'r anialwch, ac i'r Iwerddon; ond y rhai o gylch Llundain a glan Tafwysg[2] a wanwyd â chleddyf y Rhufeiniaid. O gylch oedran Crist 418 Ꭹ bu hyny.

Ac yno y Rhufeiniaid, fel cynghorwyr da yn ysbysu pethau buddiol er diogelwch y deyrnas, a annogasant y Brytaniaid i adgyweirio bylchau ac adwyau Gwal Sefer, gan hyderu y byddai hyny yn beth rhwystr ar ffordd eu gelynion ciaidd rhag eu merthyru. Ac yn ddiammheu hi fuasai yn amddiffynfa gadarn pe ei gwneuthid fel gwal caer o galch a cheryg; ond nid oedd hon ddim ond gwal bridd,[3] o fôr i fôr, ag ambell dŵr neu gastell yma ac acw, ac felly ond ychydig lesâd i'r hen Frytaniaid rhag rhuthrau eu gelynion. Canys prin oedd y Rhufeiniaid wedi dychwelyd adref i'r Ital, ond wele y Brithwyr yng nghyd â'r Gwyddelod, yn tirio drachefn o'u coryglau yn aberoedd y gogledd o'r Iwerddon, ac yn difrodi

  1. Ita. Mss. Gildas vero et Beda nonnihil secus.
  2. Thamisis
  3. Muros inter duo maria non tam lapidibus quam cespitibus factus. Gild. p. 13.