Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/87

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth iddynt; a'r achosion o hyny ynt—1. Am fod y Rhufeiniaid, o amser bwygilydd tra fuont hwy yn rheoli yma, yn arllwys y deyrnas o'i gwŷr iefainc, ac yn eu cipio y tu draw i'r môr i ymladd drostynt mewn gwledydd pellenig. 2. Am i'r rhan fwyaf o'r ieuenctyd a gwŷr arfog, y rhai a adawyd yn y wlad, fyned ar ol Macsen Wledig i Ffrainc ac i'r Ital, y rhai ni ddychwelasant fyth i Frydain; megys yr aeth llu mawr hefyd gyda Chystenyn, gan fwriadu ei wneuthur yntef yn ymherawdr, fel y darllenasoch eisys. 3. Am fod i'r ieuenctyd ag oedd y pryd hwn ym Mrydain heb eu haddysgu i ryfela; ac ni wna gwr dewr heb fedr ond sawdiwr trwsgl. Dyma ba ham yr oedd y Brytaniaid mor llesg ar hyn o bryd, y rhai oddi eithr hyny, oeddent mor fedrus i drin arfau rhyfel, ac hefyd mor galonog ag ond odid un genedl arall dan wyneb yr haul. A hynod yw yr enw y mae Harri yr Ail, Brenin Lloegr, yn adrodd am danynt mewn llythyr a ddanfonodd efe at Emanuel, Ymherawdr Constantinopl. "Y mae," eb efe, "o fewn cwr o Ynys Brydain, bobl a elwir y Cymry, y rhai sy mor galonog i amddiffyn eu hawl a braint eu gwlad, megys ac y beiddant yn hyderus ddigon, ymladd law-law, heb ddim ond y dwrn moel, â gwŷr arfog â gwaewffon, a tharian, a chleddyf."[1] Ond i ddychwelyd.

Nid oedd bosibl i'r Rhufeiniaid gymmeryd y fath ymdeithiau peryglus hirfaith cyn fynyched ag y byddai eu rhaid wrthynt ym Mrydain; felly, hwy a gynghorasant benaethiaid a chyffredin i fod yn wrol o chalonog i amddiffyn eu gwlad rhag gwibiaid disberod, nad oeddent mewn un modd yn drech na hwy, pe bwrient ymaith eu musgrellni a'u meddalwch. Ac yna, heb law addysgu eu hieuenctyd y ffordd i ryfela, a byddino llu yn drefnus, yn lle yr hen wal bridd, rhoisant fenthyg eu dwylaw yn gariadus i'r trigolion tuag at wneuthur gwal geryg[2] deuddeg troedfedd o uchder, ac wyth o led, ac a adeilasant amryw gestyll ychwaneg nad oedd o'r blaen. Yr oedd cymmaint o dir rhwng un castell a'r llall ag y clywid cloch o un bwygilydd.[3] Eu hamcan yn hyny o beth oedd, os y gelynion a dirient, i ganu cloch y castell fyddai nesaf at y porthladd, fel y clywai yr un nesaf ato yntef, ac i hwnw ddeffro un arall, ac felly o'r naill i'r llall fyned y newydd ar unwaith drwy yr holl wlad, i'w rhybuddio i barotoi yn erbyn y gelyn-

  1. Ut nudi cum armatis congredi non vereantur. Girald. Des. Cam. p. 256.
  2. Gild. p. 12. Bed. 1. 1, c. 12
  3. Ford. Scotichron. lib. 3, c. 4.