Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/88

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ion. Ac ar ol gorphen pob peth, y danfonwyd gwŷs i holl randiroedd Cymru a Lloegr i erchi y pendefigion i Lundain rai dyddiau cyn ymadawiad y Rhufeiniaid adref; a gwedi eu dyfod, Cyhelyn, yr archesgob, a bregethodd yn y wedd hon:—"Arglwyddi," eb efe, "archwyd i mi bregethu i chwi; ys mwy y'm cymhellir i wylo nag i bregethu, rhag truaned yr ymddifeidu a ddamweiniodd i chwi wedi ysbeilio o Facsen Wledig Ynys Brydain o'i marchogion a'i hymladdwyr; ac a ddengys o honoch chwi, pobl anghyfrwys ydych ar ymladd, namyn eich bod yn arferedig i ddiwyllo daear yn fwy na dysgu ymladd. A phan ddaeth eich gelynion am eich penau, y'ch cymhellasant ar ffo megys defaid heb fugail arnynt, gan na fynasoch ddysgu ymladd. Ac wrth hyny pa hyd y ceisiwch bod gwŷr Rhufain yn un â chwi, ac yr ymddiriedwch ynddynt rhag yr estron-genedl ni bo ddewrach na chwi, pe ni atech i lesgedd eich gorfod? Adnabyddwch fod gwŷr Rhufain yn blino rhagoch, a bod yn edifar ganddynt y gynnifer hynt a gymmerasant ar fôr ac ar dir drosoch yn wastad yn ymladd; ac y maent yn dewis maddeu eu teyrnged i chwi weithian, rhag dyoddef y llafur cyfryw a hwnw drosoch bellach. Pe byddech chwi yr amser y bu y marchogion yn Ynys Brydain, beth a debygech chwi? A ffodd dynol anian oddi wrthych? Ni thebygaf fi golli o honynt eu dynol anian er hyny. Ac wrth hyny gwnewch megys y dylai dynion wneuthur. Gelwch ar Grist hyd pan roddo efe lewder i chwi a rhydd-did."[1] Ac yna brysio a wnaeth y Rhufeiniaid tuag adref i'r Ital; a dywedasant wrth y Brytaniaid i ymwroli os mynent; ac onid e, arnynt hwy y disgynai pwys y gofid; canys ni wrandewid eu cwyn mwyach yn Rhufain.

Dros o gylch tair blynedd y bu tawelwch yn y deyrnas ar ol hyn; canys rhwng bod y Brytaniaid ryw ychydig yn awr ar eu dysgwylfa a'u llygaid yn effro, a rhag ofn fod gwŷr Rhufain wedi cymmeryd y wlad dan eu hymgeledd, y Gwyddel gyflachog, a'r Brithwr blewog yntef, a arosasant yn llonydd yn yr Iwerddon a'r ynysoedd o amgylch. Ond ym mhen ychydig amser, sef o bobtu'r flwyddyn 425, y tiriasant drachefn yn Ynys Fon, a'r Seison hwythau[2] (megys cynnifer barcutan yn gwibio am ysglyfaeth) a heidiasant o gylch yr un pryd

  1. Dyma eiriau'r cronicl air yn air.
  2. Bed. Hist. Ecles. lib. 1. c. 20.