Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o ddeutu Caint a'r wlad o amgylch; a rhwng y naill a'r llall, mae yn hawdd i un dyn farnu pa gyflafan a thywallt gwaed oedd agos dros wyneb y deyrnas, ond yn anad un lle tua Llundain a Gwynedd. Yr oedd gwaith y barbariaid hyn yn difrodi yn ddilys yn farnedigaeth drom; ond drwg fuchedd yr hen Frytaniaid a haeddai ychwaneg eto. Canys o gylch yr amser hwn, y tramwyodd i Frydain, heresi Morgan,[1] nid ganddo ef ei hun, o blegid ei fod efe y pryd yma tua Chaersalem, ond gan rai o'i ddysgyblion; a hi a bregethwyd yn ddirgel mewn teios, ac a ddadymchwelodd ffydd aneirif o'r werin anwastad, y rhai ni sefydlwyd yn egwyddorion crefydd. Ergyd ei athrawiaeth oedd, "gan i Iesu Grist foddloni cyfiawnder Duw dros bechod dyn, y gallai pob Cristion foddhau Duw, a bod yn gadwedig, heb nerth ei ras ef." Ac yma, mae yn debygol nad oedd Brytaniaid yr oes hòno ddim hyddysgach yn yr Ysgrythyrau, nag oeddent i drin arfau rhyfel; canys fel y danfonasant o'r blaen i'r Ital am borth yn erbyn eu gelynion y Brithwyr, felly hefyd yn awr yr anfonasant at eu cymmydogion yn Ffrainc,[2] i ddeisyf cymhorth eu gwŷr dysgedig i wrthbrofi heresi Morgan. Ar hyny daeth drosodd ddau esgob rhagorol, sef Garmon a Lupus, y rhai, drwy awdurdod yr Ysgrythyr, tystiolaeth y brif Eglwys, a chadarn resymau difynyddiaeth, a amddiffynasant mor wrol y ffydd gatholic, fel y cydnabu pawb fod Duw gyda hwy; er cywilydd a gwarth i'r gwrthwynebwyr, a chysur tra mawr i'r iawnffyddiog.

Ond y gelynion, y Brithwyr, y Gwyddelod, a'r Seison oedd o hyd yn y wlad yn difa ac yn difrodi mewn rhyw gwr neu gilydd yn wastadol. Yr oedd cad ar faes gan y Brytaniaid hwythau, eto yn ofnus a meddal galon, yr hyn pan gydnabu Garmon a Lupus, hwy a ddywedasant, "Na feddalhäed eich calon, na synwch, ac na ddychrynwch rhag eich gelynion; nyni a fyddwn yn flaenoriaid i chwi, a'n porth sydd yn y Duw byw, Arglwydd y lluoedd." Ac yna, wedi cael ysbysrwydd am gyrchymdaith y gelynion, yr esgobion a roisant orchymmyn i'r fyddin am orwedd mewn dyffryn coediog, ac na syflent oddi yno hyd oni ddelai y gelynion heibio; a pheth bynag a welent hwy hwynt—hwy yn ei wneuthur, gwnelent hwythau yr un modd. Ac ym mhen ennyd fechan, wele y Brith-

  1. Gwel rhan 2, pen. 2.
  2. Ond odid o Lydaw, lle yr oedd eu cydwladwyr.