wyr, &c., yn troedio drwy'r dyffryn; a chododd y ddau esgob ar eu traed, ac a waeddasant, "Haleliwia! haleliwia! haleliwia!" Ac ar hyny, dyma'r sawdwyr i gyd un ac arall, yn neidio yn chwipyn ar eu traed, gan lefain o nerth pen, "Haleliwia!" &c., gyda'r fath floedd, nes oedd y dyffryn yn dadseinio oll: a dododd hyny y fath arswyd a braw yn y Brithwyr, megys ag yr aethant oll ar ffo, a boddodd llawer iawn o honynt wrth eu gwaith yn brysio drwy Alan, afon ag sydd yn ffrydio drwy'r dyffryn.[1] Dygwyddodd y frwydr hon ryw ychydig ar ol gwyl y Pasc, o gylch y flwyddyn 427, yn agos i Wyddgrug, yn rhandir Fflint: a'r lle hwnw a elwir Maes Garmon hyd heddyw.
Ar ol hyn, peidiodd hyfder y Brithwyr a'r gwibiaid ysgeler ereill dros ennyd. Canys cyhŷd ag y bu y Brytaniaid yn ofni Duw ac yn cilio oddi wrth ddrygioni, cyhŷd ag hyny yr arosodd y gelynion gartref; ond pan ddechreuasant anghofio Duw a'i addoliad, yna y gelynion hwythau a barotoisant i ymweled â hwy drachefn. Er fod y Brytaniaid gan mwyaf yn Gristionogion, eto, gan mwyaf, Cristionogion drwg fucheddol oeddent. Tra y bu Garmon a Lupus gyda hwy, yr oeddent yn ddynion crefyddol, neu o'r hyn lleiaf yn ymddangos felly; ond ar ol ymadawiad y ddau wr duwiol, yna y llaesodd eu sel at grefydd ac a ddechreuasant gellwair a chrechwenu, ac o fesur cam a cham i ymroddi i bob ofergamp a maswedd, nes llwyr anghofio eu gorthrymderau gynt; ac ym mhen talm o amser, syrthiasant, frodor a pheriglor, boneddig a gwreng, i bob math o ysgelerder a drygioni, cyfeddach a meddwdod, godineb ac anniweirdeb, cybydd—dod ac ocraeth, cenfigen a chas, gyda phob diystyr ac ammharch ar orchymmynion Duw, ag a ydyw natur lygredig dyn yn dueddol iddynt. "Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir." (Jer. v. 30.) Felly nid yw rhyfeddi farnedigaethau'r Goruchaf, sef rhyfel, haint, a newyn, ymweled â hwynt. "Oni ymwelaf am y peth hyn? medd yr Arglwydd; oni ddïal fy enaid ar gyfryw genedl a hon?" (Jer. v. 29.) Wele y Brithwyr yng nghyd â'r Gwyddelod, yn llu cethin arfog, yn tirio eto, yn lladd ac yn llosgi mor ddidrugaredd a chynnifer cethern o waelod uffern. A chan ystyried gyhŷd o amser y buont yn gormeilio o'r naill gwr i'r llall dros wyneb y deyrnas, prin y gall synwyr dyn amgyffred, na thafod dewin fynegu, pa gyflafan, ac anrhaith, a dinystr, a
- ↑ Vide Uss. Primord, p. 179, ubi hæc fusius.