wnaethant; canys hwy a fuont ysbaid deng mlynedd yn gwanu y trigolion meddal, heb arbed na phlentyn sugno, na gwraig, nac henafgwr; ond y rhan fwyaf a ymadawsant â'u dinasoedd a'u tai annedd, a myned ar encil i'r diffaethwch, a hyny yn gystal i geisio nawdd a diogelwch y creigydd, ag i gael rhyw ymborth, er ei saled, i dori cythlwng a chwant bwyd. Ac yn yr anialwch nid oedd dim i'w gael ond ambell fwystfil ac aderyn, gwraidd coed, a grawn surion yn eu hamser; ond nid oedd ar hyn o bryd ddim gwell ammeuthyn gan y rhan fwyaf o'r Brytaniaid.[1] Dyma a ddaw o ymddigrifwch mewn pechod, ac ymwrthod â Duw a'i sanctaidd gyfreithiau.
"Pechod yw gwaelod galar—echrydus
Ac ochain a charchar;
Cafod o boen, gofid bâr,
Dial Duw, diluw daiar.
"Hir adwyth, a mwyth, a meithder o ddig
Ddaw o ysgelerder;
Gwna gaerau'n garneddau gwer,
A bro naid oll yn brinder."
Ond o'r diwedd, wedi goddef hir gystudd, gorthrymder, newyn, ac oerfel, eu cynghor oedd i anfon un genadwri eto at eu hen feistraid y Rhufeiniaid, i edrych os ar antur a drugarheid wrthynt. Ac a hyny, o gylch y flwyddyn 446, ysgrifenwyd llythyr gydag Ednyfed ab Gwalchmai, at Esius, rhaglaw dan yr ymherawdr yn Ffrainc, yn y geiriau galarus hyn:"Griddfan y Brytaniaid at Esius y tair—gwaith uchelfaer. Y barbariaid a'n gwthiant i'r môr, a'r môr yn ein gyru yn ol at y barbariaid; a rhwng y naill a'r llall, nid oes dim cyfrwng ond naill ai cael ein lladd neu foddi." Nid yw hyn ond darn o'r llythyr,[2] ond hyn yw'r cwbl sydd genym ni wedi ei gadw: ac oddi wrth yr ychydig yma, mae yn hawdd i farnu ym mha gyflwr tosturus a gresynol yr oedd y Brytaniaid ynddo ar hyn o bryd. Ond er hyny ni allodd y Rhufeiniaid ond dymuno yn dda iddynt; a phrin oedd hi bosibl iddynt eu cynnorthwyo chwaneg, am fod yr ymherodraeth yn llawn terfysg a gwrthryfel ym mhob man; megys hen balas mawr wedi adfeilio, a phob cymmal yn siglo, a'r trawstiau oll yn ysboncio ar uchaf awel o wynt rhyferthwy.