Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tra yr oeddent yn ddiareb ym mysg eu cymmydogion am eu dirasrwydd a'u meddalwch. Gwelsant hefyd y bendithion haelionus, y dyddanwch, y breswylfod ddiogel, a gawsant tra yr oeddent yn Gristionogion da, ac yn gwneyd cydwybod o'u dyledswydd at Dduw a dyn. Ond er hyn i gyd, dynion drwg anufudd a gwrthryfelgar oeddent. Wedi iddynt yru ymaith y gelynion, a byw yn llonydd yn eu gwlad, hwy ymosodasant i lafurio'r ddaiar, a chawsant y fath gnwd o yd, a'r fath amlder o ffrwythau y flwyddyn hon, fel na welwyd erioed eu cyffelyb.[1] Ond ym mhen dwy flynedd neu dair, (amser byr!) ar ol iddynt gael preswylfa ddiogel yn eu caerydd a'u cestyll, ac hefyd eu İlenwi o bob danteithion, ammeuthyn fwydydd, ac ail seigiau, hwy a aethant yn hyfach (pe buasai bosibl) i bechu yn erbyn Duw nag y buont erioed. "Iesurun a aeth yn fras, ac a wingodd." (Deut. xxxii. 15.) Eneiniwyd breninoedd, nid y cyfryw a wnaent gydwybod i rodio gyda Duw, ond y sawl oeddent greulonach a melltigedicach nag ereill; a chyn pen ychydig, hwy a leddid gan y sawl a'u heneinodd (nid o achos y gwirionedd), a dewisid rhai creulonach eto yn eu lle.[2] O byddai rhyw neb un yn chwennych byw yn brydferth a llonydd, ac yn "symmud ei droed oddi wrth ddrygoni," hwnw a gaseid gan bawb, a phrin y gellid ammharchu digon arno; ond pa fwyaf ysgeler, diriaid, a diras a fyddai neb, mwyaf i gyd a fyddai parch ac anrhydedd hwnw. Ac nid y gwŷr lleyg yn unig oeddent fel hyn yn ymhyfrydu mewn camwedd, ac yn casau y wybodaeth o Dduw, eithr y gwŷr llên hefyd, neu yr offeiriad, "a ymadawsant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch." (Diar. ii. 13.) Canys yn lle gofalu dros eu diadellau, eu teml hwy a fyddai cegin tafarnau, ac ymdordynu a chanu maswedd;[3] am ba ham y canodd un o'u prydyddion, gan edliw iddynt:—

"Y 'ffeiriaid oent euraid cyn oeri—crefydd;
Cryf oeddent mewn gweddi:
Yn awr meddwdod sy'n codi
'Nifeiliaid yw'n bugeiliaid ni."

Ar fyr eiriau, ni lysodd un gradd, na boneddig na gwreng, na gwŷr llên, na gwŷr lleyg, â dim ysgelerder, a direidi, ac annuwioldeb, ag ydyw natur lygredig dyn yn dueddol iddo. "I'r bobl hyn yr oedd calon wrthnysig anufuddgar; hwynt-

  1. Tantis abundantium copiis insula affluebat, &c. Gild. 9. 19, p. 17.
  2. Ibid. p. 18
  3. Vino madidi torpebant resoluti. Gild. p. 18. 6.