peth a fuasai iddynt osod y blaidd yn geidwad ar yr ŵyn, i'w hachub rhag y cedni, a gwahawdd y Seison hwythau drosodd i ymladd drostynt yn erbyn y Brithwyr. Ac eto nid oedd hyny ond y peth y mae Duw yn fygwth yn erbyn anufudddod: "Oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, yr Arglwydd a'th dery di ag ynfydrwydd, ac â dallineb, ac â syndod calon." (Deut. xxviii. 15, 28.) Ofnent y Seison o'r blaen, megys plant y fall ac ellyllon o waelod annwn; eto y fath hurtrwydd a'u perchenogai ar hyn o dro, fel y danfonasant genadon atynt i'w gwahodd hwy drosodd i Frydain i fod o'u plaid i ymlid ymaith y Brithwyr, y rhai nid oeddynt mewn un modd yn wrolach pobl na hwynt—hwy eu hunain, pe nis gadawsent i fusgrellni a lleithder eu gorthrechu, megys y dywad y Rhufeiniaid lawer gwaith wrthynt.
Ni wyddys ddim yn dda ddigon am ba ham y danfonwyd am y Seison yma gyntaf, y rhai oedd bobl o Germani ger llaw Hanofer. Dywed rhai fod amgylchiadau yr hen Frytaniaid y pryd hwnw fel y canlyn:—Fe ddisgynodd coron y deyrnas o iawn dreftadaeth i wr graslawn a elwid Constans, yr hwn a gafas ei ddygiad mewn mynachlog, ar fedr ei ddwyn ef i fyny yn grefyddwr, ac o'r achos hwnw oedd adnabyddus ag arferion y llys ac â chyfreithiau'r deyrnas. Ac o'r achos hwnw efe a osododd ddystain, neu ben rheolwr, dano, i farnu materion y llys a'r deyrnas. Y dystain hwnw a elwid Gwrtheyrn; a dyn rhyfygus, ystrywgar, a ffals, oedd efe; canys ar ol cael yr awdurdod freninol yn ei law, ei amcan nesaf oedd cael meddiant ei hun, a lladd ei feistr. Felly efe a roddes wobr anwiredd i o gylch cant o feibion y fall, ar iddynt ruthro am ben ystafell y brenin, a'i ladd ef. Ac ar hyny, wedi gwneuthur sen a gogangerdd er anfri i Constans, a chaniad o fawl i Gwrtheyrn, dysgwyl oedfa a wnaethant i ruthro arno; a'i ladd a orugant, a dwyn ei ben ger bron y bradwr; ac yntef a gymmerth arno wylo, er na bu erioed lawenach yn ei galon. Ond i fwrw niwlen o flaen llygaid y bobl, fel y tybid nad oedd ganddo ef ddim llaw yn y mwrdd-dra, efe a barodd dori penau y can wr hyny a osodes efe ei hun ar waith.[1] Ac felly, barn rhai yw i wrtheyrn wahodd y Seison i fod yn osgordd ac yn amddiffyn iddo, rhag y difreinid ef am ei fradwriaeth a'i ysgelerdra. Ond boed hyny fel y myno, hyn sydd ddilys ddigon, fod pob
- ↑ Galf.lib 6.c.7,8,9.