Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/96

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

peth allan o drefn, fyg fag, bendraphen, ym mysg y Brytaniaid ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid oddi yma. Prin, ïe prin iawn yr ystyrid pa wir hawl, neu deitl, nac ychwaith pa gynneddfau da a fyddai gan neb un a osodai gais i fod yn ben rheolwr gwlad; ond yr hwyaf ei gleddyf a'r direitiaf a ymhyrddai i awdurdod, ac a gadwai y rheolaeth hyd oni ddeuai un trech nag ef, a'i wthio ymaith. A hyn y mae Gildas, yr hwn a ysgrifenodd o gylch y flwyddyn o oedran Crist 546, yn ei dystiolaethu yn eglur. Ac felly Gwrtheyrn, rhag y difreinid ef, megys y gwnaed i laweroedd ereill o'i flaen, a alwodd am gymhorth y Seison i ddiogelu ei hun ar yr orseddfainc:[1] a hyn, yn wir, a allai fod yn un rheswm ym mysg ereill; ond i ymladd â'r Brithwyr y cyflogwyd y Seison yn benaf dim.

Felly Gwrtheyrn, ar ol ymgynghori â'i benaethiaid, a anfonodd bedwar o wŷr anrhydeddus ei lys i wneuthur ammod â'r Seison, a'u gwahodd hwy drosodd i Frydain, sef oedd enwau y pendefigion hyny, Cadwaladr ab Tudur Ruddfaog, Rhydderch ab Cadwgan Freichfras, Meurig ab Trehaern, a Gwrgant ab Maelgwn Ynad, heb law ereill o is radd yn osgordd iddynt. Ac yna wedi myned i ben eu siwrnai, os gwir a ddywed cronicl y Seison (canys Sais cynhenyd sydd yn adrodd hyn o fater,[2] ond nid oes air yn un cronicl Cymraeg am dano), y cenadon a wnaethant araith[3] ger bron eisteddfod o Seison, yn y geiriau hyn:—"Nyni, y Brytaniaid truain, wedi ein harcholli a'n blin gystuddio gan aml ruthrau ein gelynion, ŷm yn deisyf eich porth a'ch nawdd yn y cyfyngdra trallodus y'n dygpwyd ynddo ar hyn o bryd. Ein gwlad sydd eang ddigon, fflwch a diamdlawd o bob peth buddiol i gynnaliaeth dyn; cewch feddiant ynddi; digon yw hii ni a chwithau. Hyd yn hyn y bu y Rhufeiniaid yn ymgeleddwyr tirion i ni; nesaf at ba rai ni adwaenom neb a roddes brawf mor helaeth o'u grymusdra a chwychwi. Bydded i'ch arfau seinio allan eich gwroldeb yn Ynys Brydain; ac ni fydd flin genym wneuthur o'n rhan ninnau, un fath o wasanaeth a esyd eich ardderchawgrwydd arnom." Ac yna yr atebodd y Seison wrth fodd eu calonau, gan ddywedyd, "Chwi ellwch hyderu arno, Frytaniaid anrhydeddus, y bydd y Seison yn geraint

  1. Nenn. c. 28. Vide Orig. Brit. c. 5, p . 318 , 319.
  2. Witichindus cit. a Camd. p. 123.
  3. Fe ddygwyddodd camsyniad hagr yn yr argraffiad cyntaf, lle y dywedir ddanfon llythyr at y Seison. Ni fedrent hwy air ar lyfr, na darllen nac ysgrifenu, yn yr amser hwnw.