cywir i chwi, ac yn barodol i'ch cynnorthwyo yn yr ing a'r trallod mwyaf." Y gwirionedd yw, nid yw yr araith hon ond chwedl gwneuthur y Sais; nid dim ond ei ddychymmyg ei hun; canys nid oedd awdurdod y cenadon a ddanfonwyd at y Seison, ddim amgen ond ammodi â hwy er cymmaint a chymmaint o gyflog, megys y gallent hwy gytuno arno.[1] Nid oedd air o son am gael meddiant mewn un cwr o'r deyrnas.
Yr oedd ambell un, y rhai oedd â'u synwyrau yn effro, yn darogan y wir chwedl, ac yn ofidus eu calon wrth ragweled y distryw gerwin oedd ar ddyfod. "Pan gaffo y cacwn," ebe un, "letty yng nghwch y gwenyn, e orfydd ar wir drigolion y cwch roddi lle i'r pryf gormesol. Gwae fi! na fyddo gwahodd y Seison ddim yn gwirio y ddiareb, 'Gollwng drygwr i ysgubor gwr da;' a llawer gwaith y gwelwyd, mai 'gelyn i ddyn yw ei dda."" "Mi a glywais hen chwedl," eb un arall, "i'r colomenod gynt ammodi â'r barcutanod ar eu cadw rhag rhuthr y brain; y bodaod yn ddilys ddigon a erlidiasant y brain ymaith; ond beth er hyny? Nid hwyrach ag y byddai chwant saig felus ar y bodaod, nid dim arall a wasanaethai eu tro ond colomen at giniaw a phrydnawnfwyd. Mi gaf gan Dduw mai nid hyny fydd corff y gainc ar waith ein brenin da ninnau yn anfon am y Seison." Ond nid oedd ond ambell offeiriad tlawd yn dal hyn o sylw ar bethau; canys ar ol dychwelyd y cenadon adref, bu llawenydd o'r mwyaf yn y llys: a byth ni welai y brenin ynfyd ddigon o arlwy ar eu medr, na digon o ddanteithion a moethau yr ynys i'w croesawu. Ac ym mhen ychydig, ryw bryd ym mis Awst, yn y flwyddyn o oedran Crist 449, y tiriasant mewn tair llong, a dau frawd, Hengist a Hors, yn flaenoriaid arnynt. Ar ol gwledda a bod yn llawen dros rai dyddiau, a llwyr gytuno ar y gyflog yr oedd y Seison i dderbyn am eu gwasanaeth, fel na byddai dim ymrafael am hyny rhag llaw, y Seison yno yn wir a roisant brofiad helaeth o'u gwroldeb a'u medr i drin arfau rhyfel; canys er na allent fod yn nifer fawr iawn, pan y gallasai tair llong eu dwyn, eto, a hwy yn awr yn borth i'r llu egwan oedd yn y deyrnas eisys, y Brithwyr a wasgarwyd, eu byddinoedd a ddrylliwyd, a Niawl Môr Mac Flan a dorodd ei wddf ar ei waith yn ffoi yn frawychus ac yn fyrbwyll.
Ond fe ddarfu am onestrwydd y Seison wrth weled mor
- ↑ Vide Annot. in Camd. p. 123. Orig. Brit. p. 318.