ddifraw a musgrell oedd y trigolion (a diammheu mai dynion oeddent wedi ymroddi i feddalwch a maswedd), ond yn anad dim wrth feddwl pa wlad dda fras odidog oedd ganddynt, gymmaint yn rhagori ar y cornel llwm newynog oedd ganddynt hwy gartref. Ac yna hwy a ddanfonasant yn ddirgel at eu cydwladwyr,[1] i wahodd y rhai mwyaf gwaedlyd a'r cieiddiaf o honynt drosodd i Frydain, tuag at ddwyn eu hystryw drwg i ben. Canys er eu bod yn barod ddigon o honynt eu hunain, ond nid oedd eu nifer eto yn ddigon. "Y wlad," ebe hwy, "sydd odidog a chnydfawr! gwlad doreithiog a hyfryd! ond y trigolion ydynt lesg, a llaith, a diofal. Os ydych gall, nac aroswch gartref i newynu, ond cymmerwch galon gwŷr, a deuwch drosodd gyda ni. Ni roddir gwlad i fusgrell.' Ein cydfwriad ni yw, i ruthro ar y trigolion swrth, megys y byddo'r wlad yn eiddo ein hunain; felly, gwybyddwch fod eich arfau yn awchus ac yn gywrain i ladd."
Nid oedd dim llawer iawn o achos canlyn arnynt i'w perswadio: digon o annogaeth oedd cael anrheithio'r wlad ar ol lladd a mwrddro'r trigolion. Felly, yn ebrwydd y cynnullodd llu mawr o honynt, y pedwar cymmaint a'r waith gyntaf, ac ym mhlith ereill, dau fab i Hengist, a merch iddo a elwid Rhonwen. Y sawl o'r Brytaniaid ag oedd â'u llygaid yn agored, a edrychasant yn chwithig ar y fath lu gormesol o farbariaid arfog yn tirio heb genad; ond y brenin ynfyd, Gwrtheyrn dan ei enw, a'u hymgeleddodd, a thuag at ddystewi man son y bobl, efe ddywad, mai yn gynnorthwy yn erbyn y gelynion y daethant, rhag bod y fyddin gyntaf yn annigonol. Yr oedd Hengist erbyn hyn wedi adnabod tymmer y brenin; ac er maint o anrhegion, heb law eu cyflog, ag oedd efe a'i wŷr wedi eu derbyn, eto, efe a fynai gael dinas gaerog dan ei lywodraeth, "fel y byddwyf," eb efe, "yn anrhydeddus ym mhlith y tywysogion, megys y bu fy hen deidiau yn eu gwlad eu hun." Ond atebodd Gwrtheyrn, "Ha, wr da! nid yw hyny weddus, canys estron a phagan ydwyt ti: a phe y'th anrhydeddwn di megys boneddig cynnwynol o'm gwlad fy hun, y tywysogion a safent yn erbyn hyny." "Ond, O Arglwydd Frenin!" ebe Hengist, "caniatâ i'th was gymmaint o dir i adeiladu castell, ag yr amgylchyna carai." "Ti a geffi gymmaint a hyny yn rhwydd," ebe
- ↑ Beda ipse hoc asserit. Hist. Eccles. lib. 1 , c. 15.