Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1902.djvu/69

Gwirwyd y dudalen hon

Drych y Prif Oeʃoedd.

RHAN I.

PEN I.

Cyff-genedl y Cymru a'i Dyfodiad cyntaf i'r Ynys hon.

GWAITH mawr, ond Gwaith Salw a chwith, yw adrodd Helynt y Cymru; eu Haflwydd a'i Trafferthion Byd, ym mhob Oes a Gwlad y buont yn preʃwylio ynddi, er pan gymmyʃcwyd yr Iaith yn Nhwr Babel. Canys onid peth galarus a blin, yw adrodd mor anniolchar oeddent i Dduw, mor chwannog i wrthryfela yn ei erbyn, ac mor barod i Syrthio i Brofedigaeth y Byd, y Cnawd, a'r Cythraul, yr hyn a barodd eu bod mor anffodiog, ac aflwyddiannus? Ac o herwydd i'n Hên deidau ninnau yfed Anwiredd fel dwfr, bu gwir y Ddihareb, Diniʃtr fydd i weithwyr anwiredd. Dihar. 21. 16 Ac felly nyni (fel amryw Genhedloedd eraill o'r diwedd) wedi ein Pechodau addfedu, a adawyd yn ychydig bobl, lle yr oeddem fel Sêr y nefoedd o luofogrwydd, o herwydd ni wrandawfom ar lais yr Arglwydd ein Duw. Deut. 28. 62.

NID oes yn wir un Genedl dan Haul wedi cadw ei Gwlad a'i Hiaith o'r hen amʃer gynt yn gyfan a dilwgr; nac oes un wedi cadw ei Braint yn ddigoll ac yn ddigymmyʃc Y mae'r Juddewon er yʃtalm yn achwyn, Wele ni heddyw