Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1902.djvu/70

Gwirwyd y dudalen hon

yn weiʃion, ac am y wlad a roddaiʃt i'n Tadau ni, fwytta ei ffrwyth a'i daioni, wele ni yn weiʃion ynddi. Nehem. 9. 36. Canys y mae 'r Tyrciaid wedi goreʃgyn gwlad Judea, ac nid oes gan yr Juddewon gymmaint a lled troed o feddiant ynddi.— Y mae'r Troegiaid hwythau (y rhai a fuont yn yr hen amʃeroedd yn Ben ar y Byd) wedi gwaʃgaru (megis yr Juddewon hwythau) hyd wyneb y Gwledydd; a'i Tiroedd a'i Teyrnaʃoedd ehang ym meddiant Twrc. —Y mae'r Rhufeiniaid hefyd (y rhai o gylch amʃer ein Harglwydd Jeʃu, oeddent Feiʃtraid ar y rhan fwyaf o'r Byd ag oedd adnabyddus y pryd hwnnw) y maent ynawr, meddaf, er ys llawer cant o Flynyddoedd maith, wedi darfod am danynt, hwynthwy a'i Haith hefyd, (ond a geffir mewn Llyfrau) a'i Hawdurdod fawr gynt wedi ei llarpio, megis Burgyn gan Adar Yʃglyfaeth. —Ond yr ym ni etto (Gweddillion yr hen Frutaniaid) yn trigo mewn Cwrr o'r Ynys fawr hon, y buom gynt yn Feiʃtraid o'r naill gwrr i'r llall o honi; ac yn cadw ein Hiaith gyntaf; os nid yn berffaith gwbl, etto yn burach nag un genedl arall yn y Byd. Eu Hiaith a gadwant, eu tir a gollant, ebe Myrddin.

YR oedd yr Hen Bobl yn yr Oeʃoedd gynt mor anyʃpys am Ddechreuad Trigolion cyntaf y Wlad hon, fel nad oedd ganddynt na Medr nac amcan tuag at hynny.—Yr wyf yn cofio am un Awdur Seiʃnig (a eilw'r Cymru Gwilym Bach) yr hwn a ddywed "gael mewn Ogof yn Lloegr yn amʃer y Brenin Stephan, Fachgen ac Herlodes o Liw gwyrdd dieithr anferthol, anhebyg i un Dyn arall a welwyd erioed yn y Byd hwn; ac mai'r Opiniwn cyffredin oedd, iddynt "dreiddo i fynu drwy Dwll o Eigion neu Berʃedd y