Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1902.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"y ddaear, fel y mae 'r Awdur yn bur ddoeth yn adrodd yn helaeth. [1]

ER ynfytted yw y fath hen Chwedlau gwallgof a'r rhai hyn, etto nid oedd Rhai (ac yn cymmeryd arnynt yn wyr dyʃcedig hefyd) ym myʃc y Groegiaid a'r Rhufeiniaid un tippyn gallach yn eu traws amcan anniben ynghylch Trigolion cyntaf yr Ynys hon; canys Barn Rhai o honynt yw, iddynt dyfu allan o'r Ddaear, megis Bwyd-llyffant.

Y mae e'n wir yn orchwyl dyrus ddigon i chwilio allan Ddechreuad ein Cenedl ni yn gywir ac yn ddiwyrgam, a'i holrhain o'i Haberoedd i lygad y Ffynnon. Ond mi a amcanaf i ʃymmud ymaith y Niwl oddiar y ffordd, fel y bo ein Taith at Gwirionedd yn eglur.

WEDI i Adda droʃʃeddu Gorchymmyn Duw, a myned tua'i Eppil yn ddaroʃtyngedig i Bechod, amlhaodd Drygioni dynol ryw gymmaint, ac y bu edifar gan yr Arglwydd wneuthur o honaw ddyn. Ac yn y flwyddyn, er pan greawdd Duw y Byd 1655, y danfonodd yr Hollalluog Ddiluw cyffredinol i foddi Dyn ac anifail.—Ond Noah gyfiawn (ac er ei fwyn ef ei Deulu) a gafas ffafr yn ei olwg, ac a achubwyd rhac Gormes y Dwfr—diluw mewn Llong a alwn ni yr Arch.

WEDI achub Noah fel hyn, a dyfod ag ef i genhedlaethu Tô megis mewn Byd arall, cydfwriadodd

  1. Gul. Niubrig. Rer. Anglio Lib. 1. Cap. 27.