Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/100

Gwirwyd y dudalen hon

y llys; a byth ni welai y brenin ynfyd ddigon o arlwy ar eu medr, na digon o ddanteithion a moethau'r ynys i'w croesawu. Ac ymhen ychydig, rywbryd ym mis Awst, yn y flwyddyn o oedran Crist 449, y tiriasant mewn tair llong, a dau frawd, Hengist a Horsa, yn flaenoriaid arnynt. Ar ol gwledda a bod yn llawen dros rai dyddiau, a llwyr gytuno ar y cyflog yr oedd y Saeson i dderbyn am eu gwasanaeth, fel na byddai dim ymrafael am hynny rhagllaw, y Saeson yno, yn wir, a roisant brofiad helaeth o'u gwroldeb a'u medr i drin arfau rhyfel; canys er nad allent fod yn nifer fawr iawn pan y gallasai tair llong eu dwyn, eto, a hwy yn awr yn borth i'r llu egwan oedd yn y deyrnas eisioes, y Brithwyr a wasgarwyd, a'u byddinoedd a ddrylliwyd, a Niawl Mor Mac Flan a dorrodd ei wddf ar ei waith yn ffoi yn frawychus ac yn fyrbwyll.

Ond fe ddarfu am onestrwydd y Saeson wrth weled mor ddifraw a musgrell oedd y trigolion, a diameu mai dynion oeddent wedi ymroddi i feddalwch a maswedd, ond yn anad dim wrth feddwl pa wlad dda fras odidog oedd ganddynt, cymaint yn rhagori ar y gornel llwm newynog oedd ganddynt hwy gartref. Ac yno hwy a ddanfonasant yn ddirgel at eu cydwladwyr i wahodd y rhai mwyaf gwaedlyd a'r cieiddiaf o honynt drosodd i Frydain, tuag at ddwyn eu hystryw drwg i ben; canys er eu bod yn barod ddigon o honynt eu hunain, ond nid oedd eu nifer eto yn ddigon. "Y wlad," ebe hwy, sydd odidog a chnydfawr, gwlad doreithiog a hyfryd, ond y trigolion ydynt lesg, a llaith, a diofal. Os ydych gall, na arhoswch gartref i newynu, ond cymerwch galon gwŷr, a deuwch drosodd gyda ni. Ni roddir gwlad i fusgrell.