Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/101

Gwirwyd y dudalen hon

Ein cydfwriad yw, i ruthro ar y trigolion swrth, megis y byddo'r wlad yn eiddo ein hunain; felly gwybyddwch fod eich arfau yn awchus ac yn gywrain i ladd."

Nid oedd dim llawer iawn achos canlyn arnynt i'w perswadio; digon o anogaeth oedd cael anrheithio'r wlad ar ol lladd a mwrddro y trigolion. Felly yn ebrwydd y cynullodd llu mawr o honynt, pedwar cymaint a'r waith gyntaf, ac ymhlith ereill, dau fab i Hengist, a merch iddo a elwid Rhonwen. Y sawl o'r Brutaniaid ag oedd a'u llygaid yn agored a edrychasant yn chwithig ar y fath lu gormesol o farbariaid arfog yn tirio heb gennad; ond y brenin ynfyd, Gwrtheyrn dan ei enw, a'u hymgeleddodd; a thuag at ddistewi mân-son y bobl, efe a ddywed mai yn gynorthwy yn erbyn y gelynion y daethant, rhag bod y fyddin gyntaf yn anigonol. Yr oedd Hengist erbyn hyn wedi adnabod tymer y brenin, ac er maint o anrhegion, heblaw eu cyflog, ag oedd efe a'i wŷr wedi eu derbyn, eto efe a fynnai gael dinas gaerog dan ei lywodraeth. Fel y byddwyf," eb efe, "yn anrhydeddus ymhlith y tywysogion, megis y bu fy hen deidiau yn eu gwlad eu hunain." Ond atebodd Gwrtheyrn, Ha ŵr da, nid yw hynny weddus; canys estron a phagan ydwyt ti; a phe i'th anrhydeddwn di megis bonheddig cynhwynol o'm gwlad fy hun, y tywysogion a safent yn erbyn hynny." "Ond, O arglwydd frenin," ebe Hengist, caniata i'th was gymaint o dir i adeiladu castell ag yr amgylchyna carrai." "Ti a gei gymaint a hynny yn rhwydd," ebe Gwrtheyrn. Ac ar hynny y cymerth Hengist groen tarw, ac a'i holltodd yn un garrai, ac yn y lle cadarnaf efe a amgylchynodd gymaint a chae