Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/102

Gwirwyd y dudalen hon

gweddol o dir, ac a adeiladodd yno gaer freiniol, yr hon a elwid gynt gan y Brutaniaid Caer y garrai, eithr yn awr gan y Saeson, Doncaster, h.y., Thong-chester.

Ac yno Hengist a wahoddodd y brenin i weled y gaer newydd, a'r marchogion a ddaethant o Germany; a gwnaethpwyd yno wledd fawr o bob moethau da ac amheuthyn fwydydd dantaith. Ond yn niwedd y cwt, a Hengist yn gwybod eisioes mai dyn mursenaidd oedd Gwrtheyrn, efe a barodd i'w ferch Ronwen wisgo'n wych odidog am dani, ac i ddyfod i'r bwrdd i lenwi gwin i'r brenin; a daeth ystryw Hengist i ben wrth fodd ei galon; canys y brenin anllad a hoffodd yr eneth, a hithau,

"Yr eneth frau aniwair,
Ni ddyd wich, ni ddywed air," [1]

ond cydsynio yn ebrwydd ag ef; a phan geryddwyd ef am ei bechod a'i loddest gan Fodin, esgob Llundain, megis y gweddai i ŵr o'i broffes wneuthur, y brenin yn ei wyn gynddeiriog, a ergydiodd waewffon at ei galon, ac a gymerth Ronwen yn gariadferch iddo. Geiriau'r cronicl ydynt, Gwedi meddwi Gwrtheyrn, neidiaw a orug diaf ynddo, a pheri iddo gydsyniaw a'r baganes ysgymun heb fedydd arni."

Wedi i hyn ddyfod cystal i ben wrth fodd y Saeson, yno disgwyl a wnaethant am amser cyfaddas i ruthro ar eu meistriaid. Yn gyntaf, achwyn a wnaethant nad oedd eu cyflog agos gymaint ag oedd eu gwroldeb yn ei haeddu, er nad oedd hyn ddim oll ond eweryl gwneuthur;

  1. Owen ap Llewelyn Moel a'i Cant.