Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/103

Gwirwyd y dudalen hon

eto i gau eu safnau cawsant ychwaneg, yr hyn a'u distawodd dros ychydig. Ond megis y dywed y ddihareb, hawdd gan foneddig fin—gamu," felly hefyd hawdd yw digio dig, canys yr un don hagr oedd fyth yn bytheirio yn eu safnau, nad oedd dim cystadledd rhwng eu cyflog a'r gwasanaeth oeddent hwy yn ei wneuthur. "A raid i ni," ebe hwy, "fentro ein hoedlau am ffiloreg ac ambell geiniog gwta, i'ch cadw chwi yn ddiogel a difraw i ymlenwi mewn tafarnau, ddynionach musgrell segur ag ydych? Na wnawn ddim, ni fedrwn rannu arnom ein hunain."

Ac felly yn wir y gwnaethant y ffordd nesaf; canys ar ol dyfod rhai miloedd o honynt drachefn o Germany, a hwy yn awr yn gweled eu hunain yn gryfion eu gwala o nifer, a chwedi heddychu a'r Brithwyr, rhuthro a wnaethant ar y trigolion, megis cynifer o gigyddion anrhugarog yn ymbesgi ar waed, heb arbed na dyn na dynes, na boneddig na gwreng, nac hen na ieuainc. Nid oedd o gylch glan Tafwysc, Kent, a Llundain, a'r wlad oddi amgylch hyd at Rydychen, —ac ni chyraeddodd crafangau plant y felldith ddim llawer pellach, ddim ond yr wbwb gwyllt, ac oernad, ac ymdrybaeddu mewn gwaed, a drychau tosturus y meirw. Ac ar lan Hafren, o Gaerloyw i'r Amwythig, ac oddi yno tua Chaerlleon Gawr, yr oedd y Brithwyr hwythau, rhai a chleddyfau, rhai a gwaewffyn, rhai a chigweiniau, a rhai a bwyeill daufiniog, yn dieneidio ac yn difrodi mor ysgeler a phan y bo llifeiriant disymwth gan gafod twrwf yn ysgubo gyda'r ffrw1, ac yn gyrru bendramwnwgl dai a daear, deri a da, a pha beth bynnag a fo ar eu ffordd. Felly nid oedd ond drychau