Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/104

Gwirwyd y dudalen hon

marwolaeth a distryw o'r dwyrain hyd y gorllewin. Y trefydd a'r dinasoedd oeddent yn fflamio hyd entrych awyr, yr eglwysydd a'r monachlogydd a losgwyd hefyd â thân, ac a fwriwyd i lawr yn ganddryll. Ac o herwydd mai yno gan mwyaf y ciliodd y gwŷr llen, yr esgobion, yr offeiriaid, a gweinidogion crefydd, megis i gynifer dinas noddfa, ond ni wnai barbariaid ysgeler ddim rhagor rhwng lle cysegredig a beudy, yr esgobion, yr offeiriaid, &c., a ferhyrwyd megis ereill, lle y byddai eu haelodau yn gymysg blith-drafflith a thalpau chwilfriw yr adeilad. A'r rhai a laddwyd ar wyneb y maes a adawyd yno yn grugiau draw ac yma, naill ai i bryfedu a drewi, neu fod yn borthiant i'r cŵn a'r bleiddiaid ac adar ysgly faeth. Ar air, preswylwyr y fro a ferthyrwyd agos drwy bob cantref yn Lloegr, ond y sawl a allodd ddiane, gydag ychydig luniaeth, i'r ogofau a'r anialwch. Ond gwŷr blaenau gwlad a'r mynydddir a ymgadwasant heb nemawr o daro, ond a gawsant o gyffro.

Wedi i'r ffeilstion digred, plant y fall, orffen lladd a llosgi, y rhan fwyaf o honynt, ansier am ba achos, a ddychwelasant adref i Germany. Tybia rhai mai yr achos o'u myned mor ddisymwth i dir eu gwlad, oedd, rhag y buasai sawyr y celaneddau meirw y rhai a adawsant yn bentyrrau ar wyneb y maes heb feddrod, beri afiechyd, a bod yn bla iddynt; ond barn ereill yw, iddynt lwytho eu cylla cigfreiniog yn rhy dynn, ac iddynt ddewis, er mwyn cael eu cynefinol iechyd, fyned adref dros ennyd i dir eu gwlad, er cael budd a lleshad y fôr-wybr. naill neu'r llall oedd yn ddilys ddigon yr achos, neu ond odid bob un o'r ddau, sef drygsawr y