Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/105

Gwirwyd y dudalen hon

celaneddau, ac ymlenwi nes bod yn dordyn. Ond myned adref yn ddiameu a wnaethant; a chyn belled a ellir gasglu oddiwrth hen hanesion, hwy a arosasant gartref bum mlynedd neu chwech cyn dyfod drachefn i Ynys Brydain. Canys yn y flwyddyn o oedran Crist 449, y gwahoddwyd hwy drosodd gyntaf; o gylch deng mlynedd y buont yn weision cyflog yng ngwasanaeth y Brutaniaid i ymladd drostynt, cyn iddynt yn felldigedig dorri eu hamod a rhuthro arnynt; ac nid oes dim son am danynt mwyach hyd y flwyddyn 465. Ond boed hynny fel y mynno, wedi i weddillion y Brutaniaid ymgynnull o'r tyllau ar ol y lladdfa echrydus uchod, a galw yn egniol ar Dduw am ei gymorth, di-freinio Gwrtheyrn a wnaethant, ac nid oedd efe ond trawsfeddiannwr ar y cyntaf, a gosod y goron ar ben câr iddo a wnaethant, a elwid Gwrthefyr, yr hwn am ei fod yn ŵr arafaidd a duwiol, ac eto yn llawn calondid, a gyfenwir Gwrthefyr Fendigaid.

Ar eu gwaith yn bwrw heibio Gwrtheyrn o fod yn frenin, mab iddo a elwid Pascen, o'i lid a'i cherwder yn gweled gŵr arall yn gwisgo coron y deyrnas, a ymadawodd a'r wlad, ac a aeth, Suddas bradychus ag oedd, yn union at y Saeson, a chymodi a wnaeth ef â hwy, a myned yn un-gar unesgar; a'r bradwr hwnnw,—a bradwr o hyd a fu distryw Brydain,—a fu, ond odid, yr achos pennaf o'u dyfodiad y waith hon i Frydain, i ddial y sarhad o ddifreinio ei dad. Ond gwell a fuasai iddo ef a hwythau fod yn llonydd; canys am y brenin duwiol Gwrthefyr, cymaint oedd yr enw am dano wedi ymdaenu ar led, fel y bu hoff gan galonnau holl ieuenctid y deyrnas ddwyn arfau dano; ac yntau a osododd