Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/106

Gwirwyd y dudalen hon

ar y llu, yn nesaf ato ei hun mewn awdurdod a gallu, wr graslawn a elwid Emrys Benaur, tad yr hwn yng nghyda'r rhan fwyaf o'i gyfneseifiaid a laddwyd yn y mwrdra creulon y soniwyd am dano uchod. A gŵr rhagorol oedd hwn hefyd; heblaw ei fod yn rhyfelwr enwog, efe "a rodiodd o flaen Duw mewn gwirionedd, cyfiawnder, ac uniondeb calon, ac eto fel llew i ymladd dros fraint ei wlad a'r eglwys gatholig. Ac a hwy a'u hymddried yn yr Arglwydd Dduw, ac yn glynu wrtho â'u holl galon ac â'u holl enaid, ar waith y ddwy gad yn bloeddio i'r frwydr, Emrys a weddiodd ar yr Arglwydd â'i holl egni; ac yno, y ddau lu a ergydiasant yn ffyrnig y naill at y llall, a buan y cuddiwyd y maes â chelaneddau y clwyfus a'r meirw. Emrys oedd ar farch rhygynog yn gyrru megis mellten o restr i restr, i osod calon yn ei wŷr, rhag bod neb o honynt yn llaesu, ac yn troi eu cefn ar y gelynion; a thrwy borth Duw, y Bru—taniaid a enillasant y maes, a'u gelynion a wasgarwyd, rhai yn ffoi gyda'r Brithwyr i Iscoed Celyddon neu Scotland, ac ereill i dir eu gwlad y tu draw i'r môr. O gylch y flwyddyn o oedran Crist 465 y bu hyn.

Er ennill y maes ar y gwŷr arfog, a'u hymlid ymaith, eto chwith fu gan y Brutaniaid ruthro ar y gwragedd a'r plant a adawodd y Saeson ar eu hol, ond eu gadael a wnaethant i fyw yn llonydd yn y wlad. Ond "gwneler cymwynas i ddyn drwg, ac efe a dâl y mawr ddrwg am dano;" ymgoledded dyn sarff yn ei fynwes, ac efe a fydd debyg o gael ei frathu. Ac felly Rhonwen hithau, y Saesones, merch Hengist, a gordderchwraig Gwrtheyrn, yn lle bod yn ddiolchgar am y tiriondeb a'r ffafr a ddangoswyd