Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/107

Gwirwyd y dudalen hon

iddi hi a'i heiddo, a osododd ei synwyr ar waith i wenwyno y brenin da, Gwrthefyr Fendigaid; a thuag at ddwyn ei hystryw uffernol i ben, hi a roddodd yr hanner o'r holl drysor ar a feddai hi yn y byd, i lanc o ysbryd eofn ac ysgeler a elwid Ebissa; ac yntau a ymrithiodd megis garddwr, ac ar foreugwaith, tra yr oedd y brenin yn rhodio yn ei ardd, y bradwr du a'i hanrhegodd a thusw o flodau briallu, a mwg gwenwyn marwol wedi anadlu arnynt. Ac yno pan gydnabu Gwrthefyr ddarfod ei wenwyno, ond y bradwr a ddiangodd ymaith yn ddistaw at Ronwen, efe a alwodd ei holl dywysogion ato, a chynghori a orug bawb o honynt i amddiffyn eu gwlad a'u gwir ddyled rhag estron genedl. A rhannu ei gyfoeth a wnaeth efe i bawb o'r tywysogion; a gochymynnodd losgi ei gorff, a rhoddi ei ludw mewn delw o efydd ar lun gŵr yn y porthladd lle y byddai estron genedl yn ceisio dyfod i dir, gan ddywedyd mai diau oedd na ddeuent fyth tra y gwelent ei lun ef yno. Ond wedi marw Gwrthefyr, ni wnaeth y tywysogion megis yr archasai efe iddynt, ond ei gladdu ef yng Nghaerludd a wnaethant. Y fath oedd dewrder ac arial calon y brenin godidog hwn, fel megis y bu efe yn ffrewyll yn ystlysau'r Saeson tra y bu efe byw, felly efe a chwenychai fod yn ddychryn iddynt hyd yn oed ar ol ei farw. Ond ebe'r bardd,—

"Er heddwch nac er rhyfel,
Gwenynen farw ni chasgl fêl."

A glybuwyd son erioed am bobl mor wallgofus ac ynfyd ag a fu y Brutaniaid ar hyn o bryd? Canys Gwrtheyrn, yr hwn a ddifrein-