Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/108

Gwirwyd y dudalen hon

iasant rai blynyddoedd o'r blaen am ei ddiddarbodaeth yn bradychu ei wlad i ddwylaw estroniaid, a gafodd y llywodraeth yn ei law eto; ac nid oedd Rhonwen yn ewyllysio ond dyfod hynny i ben; canys wedi ei sicrhau ef yn y frenhiniaeth, hi a anfonodd yn chwipyn genhadon hyd yn Germany, i hysbysu i'w thad iddi hi yn ystrywgar ddigon wneyd pen ar Wrthefyr, a bod Gwrtheyrn, gŵr ag oedd hoff ganddo genedl y Saeson, wedi ei ddyrchafu i eistedd ar yr orseddfainc yn ei le. Ha, ha," ebe Hengist yno wrth ei wŷr, "y mae i ni obaith eto; oes. hwy a'i hatebasant ef â gwên ddiflas,—" Gobaith ansicr iawn ydyw hynny: canys nyni a ddirmygasom ormod ar y Brutaniaid eisioes, a phobl lewion ydynt hwythau wedi llidio." Ffi, ffi," ebe Hengist, na lwfrhaed eich calon, yr ym ni yn gyfrwysach na hwy; pan ballo nerth, ni fedrwn gynllwyn." Ac yno, efe a gynullodd yng nghylch pymtheg mil o wŷr arfog, heblaw gwragedd a phlant, ac a hwyliodd trosodd i Frydain mor ebrwydd fyth ag oedd bosibl, canys efe a wyddai mai hawdd cymod lle bydd cariad, y fath oedd ei hyder ar y brenin hanner call hwnnw, Gwrtheyrn. Ond pan welodd y Brutaniaid y fath lynges fawr, o gylch deugain o ysgraffau, yn hwylio parth ag atynt, sicrhau y porthladd a wnaethant fel nad allent dirio. Ac ar hynny y gosododd Hengist arwydd tangnefedd i siomi y Brutaniaid, ac a ddanfonodd genhadon i fynegi i'r brenin mai nid er molest yn y byd yr hwyliodd efe i Frydain y waith honno a'r fath lu ganddo, ond i gynorthwyo y brenin i ennill ei goron, yr hon a gipiwyd yn anghyfiawn oddiwrtho. "Canys ni wyddem ni ddim amgen," ebe hwy, "onid oedd Gwrthefyr