Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/109

Gwirwyd y dudalen hon

eto yn fyw, ac yn trawsfeddiannu y goron." "Teg iawn, ebe Gwrtheyrn, ac a ddiolchodd iddynt am eu cariad. "Boed gwiw gan eich mawrhydi gan hynny," ebe hwy, "i apwyntio rhyw ddiwrnod, fel y caffo Hengist ein harglwydd gael siarad wyneb yn wyneb a'ch brenhinol uchelder." O ewyllys fy nghalon," ebe Gwrtheyrn. "Ond, O arglwydd frenin," ebe hwy eto, fel yr ymddangoso yn eglur i'r byd ein bod ni yn heddychol ac ar feddwl da, deued pawb yn ddiarfog i'r lle gosodedig a welo eich "Da mawrhydi chwi yn dda i'w bennu arno." y dywedwch," ebe Gwrtheyrn, "ac nyni a gyfarfyddwn ddydd Calan Mai nesaf, yng ngwastadedd Caer Caradoc."

Wedi i Hengist fel hyn ymgynhesu â'r brenin didoreth, a hawdd cynneu tân mewn hen aelwyd, yno ei ferch Rhonwen a ddaeth i ymweled âg ef, ac adrodd wrtho mor ddichellgar y bu hi i wenwyno Gwrthefyr. "Da merch i!" ebe Hengist, "wele merch dy dad yn llwyr wyt ti, mi a ddywedaf hynny am danat."

Hengist ar hyn a barodd alw ynghyd ei farchogion, ac ar ol adrodd mor ystrywgar y darfu i Ronwen wenwyno Gwrthefyr Fendigaid, yna efe a ddywedodd wrthynt,—Dydd Calan Mai nesaf yr ydym i gyfarfod â phendefigion y Brutaniaid dan rith i wneyd amod o heddwch â hwy; ond yn wir ddiau ar fedr eu lladd bob mab gwraig, cystowcwn ag ydynt. Canys wedi i ni ladd y goreuon, rhydd hynny gymaint o fraw yn y werinos talog, fel na bo calon yn neb i'n gwrthsefyll. Ond i ddwyn i ben hyn o or—chwyl yn gyfrwys, dyged pawb o honoch gyllell awchlym ddaufiniog, megis cyllell cigydd, yn ei lawes, a phan ddywedwyf i wrthych, Nemet